It's a Long Way to Tipperary
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Cyfansoddwr | Jack Judge |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cân theatr gerdd ac ymdeithgan Saesneg a ysgrifennwyd gan Jack Judge a Harry Williams yn 1912 yw It's a Long Way to Tipperary.
It's a long way to Tipperary,
It's a long way to go.
It's a long way to Tipperary
To the sweetest girl I know!
Goodbye Piccadilly,
Farewell Leicester Square!
It's a long long way to Tipperary,
But my heart's right there.
Hanai Jack Judge o Oldbury, tref yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Weithiau, buasai'n mentro ysgrifennu cân erbyn y diwrnod nesaf, ac ar 31 Ionawr 1912, canodd o'r gân yn Theatr Grand, Stalybridge, yn honni ei fod wedi ysgrifennu'r gân y noson gynt. Mae pobl yn Oldbury'n honni eu bod nhw wedi clywed y gân yn gynharach.
Cyhoeddwyd y gân gan Bert Feldman, sydd wedi mynnu bod o'n newid y gân wrth ailadrodd y gair 'long' yn y cytgan. Canwyd y gân gan Florrie Forde ym 1913, a recordiodd John McCormack y gân ym 1914. Canwyd y gân gan y Connaught Rangers, sydd wedi clywed fersiwn John McCormack, ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, a lledaenwyd y gân i gatrodau eraill.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Geiriau llawn a recordiadau cynnar