Isafon
Gwedd
Afon neu nant sy'n llifo mewn i lyn neu afon arall yw isafon neu llednant (hefyd rhagnant). Nid yw'n llifo'n uniongyrchol i'r môr. Gelwir y man lle mae dwy afon yn ymuno yn gydlifiad neu gymer. Tra bod gan isafon ei ddalgylch afon ei hun, mae yntau'n rhan o ddalgylch y brif afon sy'n cario'r dŵr i'r môr.