Inview Technology
Jump to navigation
Jump to search
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
busnes ![]() |
Dechrau/Sefydlu |
2006 ![]() |
Sylfaenydd |
Ken Austin ![]() |
Ffurf gyfreithiol |
cwmni cyfyngedig ![]() |
Pencadlys |
Northwich ![]() |
Gwladwriaeth ble'i siaredir |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan |
http://inview.tv/ ![]() |
Cwmni cyfyngedig sy'n arbenigo mewn troi teledai rhad yn deledu clyfar ydy Inview Technology, sydd wedi'i leoli yn Northwich, Lloegr. Drwy naill ai sglodyn silicon arbennig neu set-top-box mae'n galluogi'r gwyliwr i uno (ac i dderbyn) sawl technoleg: fideo-ar-gais, llifo sain, sianeli terestial arferol, rhwydweithio cymdeithasol ar-lein a chynnwys lleol. Mae'r cwmni'n allforio'u cynnyrch ledled y byd.
Mae'r cwmni yn bartneriaid gyda nifer o grwpiau megis Teletext ac Acetrax.[1] Mae'r Cadeirydd, Ken Austin yn byw yng Nghymru ac yn flaenllaw ym maes yr EPG (Electronic Programme Guide) ers blynyddoedd[2] a Chymro arall, sef Gareth Jones, yw'r Prif Dechnegydd (CTO).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Radio Times to run Freeview EPG". Broadband TV News. 2011-01-31.
- ↑ "Inview's own Oficial Wepsite". Inview. 2012-03-19.