Immanuel Feyi-Waboso
Dyddiad geni | 20 Rhagfyr 2002 (20 oed) | ||
---|---|---|---|
Man geni | Caerdydd, Cymru | ||
Taldra | 183cm (6t) | ||
Pwysau | 90kg (14st 1p) | ||
Ysgol U. | Coleg Clifton (Bryste) | ||
Prifysgol | Prifysgol Aston (Birmingham) | ||
Gyrfa rygbi'r gyngrair | |||
Safle | canolwr, asgell | ||
Clybiau amatur | |||
Blynydd. | Clwb / tîm | ||
Clwb rygbi Rhymni | |||
Clybiau proff. | |||
Blynydd | Clwb / tîm | Capiau | (pwynt) |
2021–2022 2022 2022– |
Caerdydd Wasps Exeter Chiefs |
1 2 11 |
(0) (0) (50) |
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clwb / tîm | Capiau | (pwyntiau) |
. | Cymru dan 18 | . | . |
Chwaraewr rygbi Cymreig yw Immanuel Feyi-Waboso (ganwyd 20 Rhagfyr 2002) sy'n chwarae i Exeter Chiefs.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Ganwyd Immanuel yn un o chwech o blant i rieni o Nigeria ac fe aeth i ysgol Corpus Christi. Yn ei yrfa athletau roedd yn arbenigo yn ras y clwdi a'r naid uchel. Dechreuodd Immanuel chwarae gyda chlwb rygbi Rhymni ac yna Ysgolion Caerdydd dan 11 a 15 yn ogystal â'r thîmau oedran ac academi Rygbi Caerdydd. Chwaraeodd ei gêm broffesiynnol gyntaf i Gaerdydd yn 18 oed yn erbyn Y Gweilch. Arwyddodd i academi y Wasps yn Chwefror 2022 a dechreuodd astudio meddygaeth ym mhrifysgol Aston (roedd yn gobeithio cael lle yng Nghaerdydd). Pan aeth y Wasps dan weinyddiaeth yn Hydref 2022, arwyddyd ef gan yr Exeter Chiefs.[1][2]
Ym mis Tachwedd 2023, derbyniodd bas dadlwytho gan Dafydd Jenkins i sgorio cais o 60m yn erbyn tîm Newcastle Falcons.[3]
Uchelgais chwarae i Gymru[golygu | golygu cod]
Ar y posibilirwydd o chwarae rygbi i dîm cenedlaethol dywedodd Immanuel, "Cefais fy ngeni yng Nghymru, Cymru yw fy mamwlad. Rwy'n siarad ychydig o Gymraeg".[4] Ei uchelgais, felly, yw chware i Gymru.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Exeter Chiefs Player List". www.exeterchiefs.co.uk. Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ Thomas, Simon (2022-02-15). "'Special future Wales international' Feyi-Waboso lost to English Premiership". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ James, Dylan (2023-11-26). "New Welsh rugby sensation scores stunning 60m try to leave commentators in awe". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-26.
- ↑ "No direct Wales or England contact - Feyi-Waboso". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-26.