Iechyd meddwl babanod

Oddi ar Wicipedia
Iechyd meddwl babanod
Mathiechyd meddwl, iechyd babanod Edit this on Wikidata

Astudiaeth o iechyd meddwl fel y mae'n berthnasol i fabanod, plant bach a'u teuluoedd yw iechyd meddwl plant. Mae'r maes yn ymchwilio i ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol gorau posibl babanod a'u teuluoedd yn ystod tair blynedd gyntaf bywyd. Gellir hefyd ystyried datblygiad gwybyddol, a datblygiad sgiliau echddygol (motor skills) yn rhan o ddarlun iechyd meddwl babanod.

Gellir olrhain y diddordeb ym mywyd meddwl babanod yng nghyd-destun eu perthnasoedd cynnar yn ôl i waith Anna Freud, John Bowlby, a Donald Winnicott. Fel mudiad polisi iechyd cyhoeddus, ymchwil empirig (hy gwylio babanod), a newid mewn ymarfer clinigol daeth y twf mwyaf yn ystod y 1960au a'r 1970au.[1][2] Mae'r llenyddiaeth helaeth sydd wedi dod i'r amlwg ers tarddiad y maes wedi'i hadolygu'n academaidd.[3][4][5] Ymhlith yr egwyddorion sylfaenol o werthuso ac o drin y baban, neu'r plentyn y mae iechyd meddwl y rhiant neu'r rhieni a'u perthynas; hefyd mae'r ffaith fod datblygiad cyflym a ffurfiannol yr ymennydd a'r meddwl ym mlynyddoedd cyntaf bywyd y plentyn yn allweddol.[6][7]

Cymru[golygu | golygu cod]

Yr unig uned ar gyfer merched beichiog a mamau newydd sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yw'r un yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'n arferol trin merched wedi 32 wythnos o feichiogrwydd, nes bod eu babanod yn flwydd oed.[8]

Sefydliadau a mudiadau[golygu | golygu cod]

Ledled y byd, mae Cymdeithas y Byd ar gyfer Iechyd Meddwl Babanod (WAIMH) a'i chymdeithion yn weithgar wrth fynd i'r afael â phryderon iechyd meddwl babanod. Yn sail i'w syniadau a'i hamcanion mae astudiaeth wyddonol a chlinigol barhaus o ddatblygiad babanod a'i effaith ar ddatblygiad diweddarach y plentyn a'r oedolyn. Cynhelir cyngres bydeang y WAIMH yn ystod blynyddoedd eilrif (2020, 2022..)

Ymdopi ag ynysu cymdeithasol[golygu | golygu cod]

Yn ystod y Gofid Mawr, sylweddolwyd fod ynysu rhieni oddi wrth deulu a ffrindiau cefnogol ac aelodau’r gymuned, yn medru ychwanegu straen ar y teulu cyfan. Sylweddolwyd fod babanod hŷn a phlant iau hefyd yn poeni nad ydynt yn gweld aelodau agos y teulu, a phobl bwysig eraill yn eu bywydau, fel gofalwyr ac athrawon.[9] Gall defnyddio galwadau fideo, galwadau Zoom (neu debyg), rhannu lluniau drwy ebost ayb a recordio fideos helpu’r rhiant a’r babi i deimlo’u bod wedi’u cysylltu yn ystod y cyfnod hwn o fod ar wahân. Gall hyn hefyd helpu’r babi i addasu ac adeiladu perthnasoedd allweddol er na all weld yr anwyliaid hyn yn y cnawd.  

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Steele BF (1986). Notes on the lasting effects of early child abuse throughout the life cycle. Child Abuse Negl. 10(3):283-91.
  2. Zeanah CH, Anders TF, Seifer R, Stern DN (1989). Implications of research on infant development for psychodynamic theory and practice. J Am Acad Child Adolesc Psychiatry. 28(5):657-68.
  3. Call JD, Galenson E, Tyson RL (1985). Frontiers of Infant Psychiatry. New York: Basic Books, Inc.
  4. Osofsky JD, Fitzgerald HD (1999). WAIMH Handbook of Infant Mental Health: Perspectives on Infant Mental Health. New York: Wiley, Inc.
  5. Zeanah CH (2012). Handbook of Infant Mental Health—3rd Edition. New York: Guilford Press, Inc.
  6. Clinton, J; Feller, AF; Williams, RC (2016). "The importance of infant mental health". Paediatrics & Child Health 21 (5): 239–241. doi:10.1093/pch/21.5.239. ISSN 1205-7088. PMC 4933050. PMID 27441014. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4933050.
  7. Street, ZERO TO THREE 1255 23rd; Washington, NW Suite 350; Dc 20037638-1144899-4301. "Making it Happen: Overcoming Barriers to Providing Infant-Early Childhood Mental Health". ZERO TO THREE. Cyrchwyd 2019-11-20.
  8. Gwefan BBC Cymru; cyhoeddwyd Mehefin 2021; adalwyd 12 Mawrth 2022.
  9. [ https://www.mentalhealth.org.uk/coronafeirws/Ymdopi-Trwy-lygaid-babanod Sefydliad Iechyd Meddwl]; Adalwyd 12 Mawrth 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]