Hulk Hogan
| Hulk Hogan | |
|---|---|
| Ffugenw | Hulk Hogan, Hollywood Hogan, Hollywood Hulk Hogan, Mr. America, Sterling Golden, Terry Boulder, The Super Destroyer |
| Ganwyd | Terry Eugene Bollea 11 Awst 1953 Augusta |
| Bu farw | 24 Gorffennaf 2025 o trawiad ar y galon Clearwater |
| Man preswyl | Clearwater |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, ymgodymwr proffesiynol, cyflwynydd teledu, actor llais, canwr-gyfansoddwr, hunangofiannydd, cyfansoddwr, person busnes, cynhyrchydd recordiau, actor ffilm, actor teledu, awdur geiriau, gitarydd, cynhyrchydd ffilm, rapiwr, cyflwynydd radio, cynhyrchydd teledu, reslwr amatur |
| Cyflogwr |
|
| Arddull | cerddoriaeth roc |
| Taldra | 193 centimetr |
| Pwysau | 125 cilogram |
| Priod | Linda Hogan, Sky Daily |
| Plant | Brooke Hogan, Nick Hogan |
| Gwobr/au | Florida Sports Hall of Fame, Neuadd Enwogion WWE, Wrestling Observer Newsletter Hall of Fame |
| Gwefan | https://www.hulkhogan.com/ |
| Chwaraeon | |
| llofnod | |
Ymgodymwr proffesiynol o'r Unol Daleithiau oedd Terry Gene Bollea (11 Awst 1953 – 24 Gorffennaf 2025). Roedd yn fwy adnabyddus dan ei lysenw Hulk Hogan.
Cychwynnodd ei yrfa fel reslar yn 1977. Daeth Hogan yn enwog yn ystod yr 1980au a'r 1990au cynnar, yn ymgodymu yn World Wrestling Entertainment. Yn y 1990au, creodd Hogan y grŵp yr NWO Trefn y Byd Newydd (Saesneg: New World Order) gyda Scott Hall a Kevin Nash yn ymgodymu ar WCW.
Yn ystod ei yrfa, enillodd Hogan y bencampwriaeth ymgodymu 12 gwaith (6 gwaith ar WWF a 6 gwaith ar WCW). Enillod Hogan hefyd y Royal Rumble 2 waith, ym 1990 a 1991. Actiodd yn y ffilm Rocky III (1982).
Yn ddiweddarach daeth yn seren teledu realiti, gyda’i gyfres deledu Hogan Knows Best a gafodd ei ddarlledu ar VH1 rhwng 2005 a 2007.
Ar 24 Gorffennaf 2025 cafodd y gwasanaethau brys ei alw i'w dŷ yn Clearwater, Florida. Cludwyd Hogan i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach, yn 71 mlwydd oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y reslar Hulk Hogan wedi marw yn 71 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-24. Cyrchwyd 2025-07-24.