Huey Long
Huey Long | |
---|---|
![]() Y Seneddwr Huey Long yn siarad (c. 1933–35). | |
Ganwyd | Huey Pierce Long, Jr. ![]() 30 Awst 1893 ![]() Winnfield, Louisiana ![]() |
Bu farw | 10 Medi 1935 ![]() o anaf balistig ![]() Baton Rouge ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, seneddwr ![]() |
Swydd | Governor of Louisiana, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Priod | Rose McConnell Long ![]() |
Plant | Russell B. Long ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Gwleidydd Americanaidd oedd Huey Pierce Long (30 Awst 1893 – 10 Medi 1935) a fu'n Llywodraethwr Louisiana o 1928 i 1932 ac yn aelod o Senedd yr Unol Daleithiau o 1932 nes iddo gael ei lofruddio yn 1935. Roedd yn ffigur hynod o ddadleuol, yn boblydd tanbaid a gafodd ei ystyried yn ddemagog gan rai.[1]
Ganed ger Winnfield, Louisiana. Astudiodd y gyfraith a chafodd ei ethol i gomisiwn rheilffyrdd Louisiana yn 25 oed. Ymgyrchodd yn etholiad y llywodraethwr yn gyntaf yn 1924, ac yn 1928 cafodd ei ethol i'r swydd honno yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd. Er iddo adael llywodraeth Louisiana yn 1932 i gynrychioli'r dalaith yn Washington, D.C., fe benododd ei olynwyr er mwyn iddo allu rheoli Louisiana, fel unben bron. Saethwyd Long yn farw gan feddyg o'r enw Carl Weiss yn Senedd-dy Taleithiol Louisiana yn Baton Rouge.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Huey Long. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Chwefror 2020.
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- William Ivy Hair, The Kingfish and His Realm: The Life and Times of Huey P. Long (Baton Rouge: Louisiana State University Press, 1992).
- Richard D. White, Kingfish: The Reign of Huey P. Long (Efrog Newydd: Random House, 2006).
- T. Harry Williams, Huey Long: A Biography (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1969).