Hirlas Owain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cerdd fawl anghonfensiynol i'w deulu (gosgordd) a briodolir i'r bardd-dywysog Owain Cyfeiliog, mab Gruffudd ap Maredudd o Bowys, yw Hirlas Owain. Mae'n un o gerddi enwocaf Beirdd y Tywysogion.

Mae'n cael ei derbyn yn waith Owain Cyfeiliog gan y mwyafrif o ysgolheigion a cheir nodyn yn nhestun Llyfr Coch Hergest yn dweud mai Owain Cyfeiliog a'i canodd, ond yn ei olygiad diweddar mae Gruffydd Aled Williams yn awgrymu'r posiblrwydd mai Cynddelw Brydydd Mawr oedd yr awdur, a hynny ar sail nodweddion unigryw yn y mydr sy'n gyffredin i ganu Cynddelw i'w noddwyr ym Mhowys a 'Hirlas Owain'; ond dydi pawb ddim yn derbyn y ddadl yn erbyn yr awduraeth draddodiadol.

Mae'r gerdd yn disgrifio cyrch Owain a'i osgordd yn 1156 i achub ei frawd Meurig ap Gruffudd o garchar ym Maelor. Ceir gwledd enfawr er anrhydedd i Owain lle mae gwin yn cael ei dywallt i lestri drudfawr y rhyfelwyr, un ar y tro.

Ceir sawl adlais bwriadol o'r gerdd arwrol gynnar Y Gododdin yn 'Hirlas Owain'. Y gerdd hynafol honno yw ein prif ffynhonnell am Fynyddog Mwynfawr, brenin Gododdin yn yr Hen Ogledd. Ond dydi'r gerdd (sy'n destun anodd ac efallai'n anghyflawn) ddim yn rhoi unrhyw fanylion hanesyddol amdano. Ond mae 'Hirlas Owain' yn llawn o gyfeiriadau at gyrch enwog gosgordd Mynyddog ar Gatraeth. Gan fod 'Hirlas Owain' yn dathlu cyrch gan osgordd Owain Cyfeiliog i ryddhau ei frawd Meurig o garchar, mae rhai ysgolheigion yn cynnig y ddamcaniaeth mai cyrch i ryddhau Mynyddog o garchar yng Nghatraeth oedd y cyrch a ddisgrifir yn Y Gododdin (yn y gerdd, dydi Mynyddog ei hun ddim yn cymryd rhan yn y cyrch, ond mae'n bosibl ei fod yn rhy hen i gymryd rhan ei hun neu fod ganddo resymau eraill dros beidio gwneud).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir y testun Cymraeg Canol gwreiddiol gydag aralleiriad Cymraeg Diweddar, rhagymadrodd a nodiadau, wedi ei olygu gan Gruffydd Aled Williams yn y gyfrol

  • Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Caerdydd, 1994).


Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.