Neidio i'r cynnwys

Hia C-ed O'odham

Oddi ar Wicipedia
Hia C-ed O'odham
Enghraifft o'r canlynolIndigenous peoples of Arizona Edit this on Wikidata
LleoliadYuma Edit this on Wikidata

Mae'r Hia C-ed O'odham ("Pobl y Tywynnau Tywod"), a elwir hefyd yn Areneños, Papagos y Tywod, neu Pima y Tywod, yn bobloedd brodorol Americanaidd gyda'u bro'n wreiddiol yn gorwedd yn ardal mynyddoedd Altas Tinajas (O'odham: Uʼuva:k neu Uʼuv Oopad) ger tref Ajo, Arizona, ar dir a rennir heddiw rhwng gwarchodfa natur Cabeza Prieta a'r Sierra El Pinacate dros y ffin ym Mecsico.

Dau ddyn Hia C-ed O'Odham ar ôl taith bysgota lwyddiannus : Lithograph o 1857

Ar hyn o bryd nid ydynt yn cael eu cydnabod yn swyddogol fel pobl brodorol gan UDA na Mecsico chwaith, er bod gan Cenedl y Tohono O'odham bwyllgor i gynrychioli eu buddianau ac yn dal tie ger Ajo fel ymddiriedolaeth ar eu cyfer. Maent yn cael eu cynrychioli gan Gynghrair yr Hia-Ced O'odham. Heddiw mae mwyafrid yr Hia C-ed O'odham yn byw yn Ajo, Arizona, neu ar dir ffederal ger llaw lle ceir eu tir amaethyddol.

Maent yn perthyn yn agos i'r Akimel O'odham (Pima) a'r Tohono O'odham:

Hia C-ed O'odham Tohono O'odham Akimel O'odham
Mamwlad draddodiadol O Gwlff Califfornia hyd fynyddoedd Altas Tinajas Anialdir i'r de o afon Gila Tir ii'r gogledd o afon Gila
Ystyr yr enw Pobl y Tywynnau Tywod Pobl yr Anialwch Pobl yr Afon
Patrymau preswylio Nomadiaid ("pobl heb bentref") System tebyg i hafod a hendre ("pobl dau bentref") Yn byw trwy'r flwyddyn ar rancherías ("pobl un pentref")
Ffordd o fyw Bron 100% hela chasglu 75% hela a chasglu, 25% amaeth 40% hela a chasglu, 60% amaeth

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Griffin-Pierce, Trudy. 2000. Native Peoples of the Southwest. University of New Mexico Press, Albuquerque, Mecsico Newydd, UDA.