Henry Robert Vaughan Johnson
Henry Robert Vaughan Johnson | |
---|---|
Ganwyd | 1820 |
Bu farw | 23 Chwefror 1899 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr |
Tad | John Johnson |
Priod | Cecilia Mina Campbell |
Plant | Robert Vaughan Johnson |
Bargyfreithiwr a gwas sifil o Loegr oedd Henry Robert Vaughan Johnson (30 Ionawr 1820 – 23 Chwefror 1899).[1][2][3] Mae'n adnabyddus fel un o'r tri chomisiynydd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad Inquiry into the State of Popular Education in Wales (1847) – y Llyfrau Gleision drwg-enwog.
Fe'i ganwyd yn Burton Latimer, Swydd Northampton, yn fab i'r Parch. John Johnson, rheithor Yaxham, Norfolk. Astudiodd yn Ysgol Sherborne ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt (1827–32). Cafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn, Llundain, ym 1848.
Yn 1846 fe'i penodwyd, gyda Jelinger Cookson Symons a Ralph Robert Wheeler Lingen – dau fargyfreithiwr arall o Loegr – yn gomisiynydd ymchwiliad seneddol i gyflwr addysg yng Nghymru. Ar adeg pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg roedd y tri chomisiynydd yn siaradwyr Saesneg uniaith. Roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth unochrog gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Anglicanaidd a ddifenwasant iaith, addysg a moesoldeb y Cymry Cymraeg. Arweiniodd adroddiad y comisiynwyr – a gyhoeddwyd mewn cloriau glas ym 1847 – at ddicter yng Nghymru, a daeth y mater yn adnabyddus fel Brad y Llyfrau Gleision.
Ym 1859 fe'i penodwyd yn Gyd-ysgrifennydd i'r Arglwydd Ganghellor, ac yn ddiweddarach daliodd amryw swyddi yn ymwneud â gweinyddu cyfiawnder.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Henry Robert Vaughan Johnson", The Peerage; adalwyd 15 Chwefror 2020
- ↑ Joseph Foster, Men-at-the-Bar: A Biographical Hand-List of the Members of the Various Inns of Court (Llundain, 1885)
- ↑ "Johnson, Henry Robert Vaughan", Alumni Cantabrigienses, cyf. 2, rhan 3 (Caergrawnt, 2011), t. 579