Hen Gastell
Math | bryngaer sy'n dilyn y llethr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6422°N 4.0906°W |
Cod OS | SS5543795777 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM268 |
Adeiladwyd castell yn dominyddu trosglwyddfa beryglus o afon Nedd gan Morgan ap Caradog ab Iestyn, Arglwydd Afan yn ail hanner y ddeuddegfed ganrif.
Mae’n debyg yr adeiladwyd ar ôl 1153 pryd dinistriwyd castell Normanaidd Aberafan gan Rhys ap Gruffydd ewythr Morgan.
Yn ôl Gerallt Gymro, arweinwyd archesgob Baldwin ym 1188 dros yr afon gan Morgan ap Caradog, tywysog yr ardal.
Saif 1 kilomedr o aber yr afon ar yr ochr gorllewinol, gyferbyn â Llansawel. Mae’n agos at draphont yr M4, ac uwchlaw'r marina. Yn debyg i Gastell y Nos, nid oedd eisiau gwaith sylweddol achos ei ffurf carregog.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- Glamorgan: Early Castles RCAHMW HMSO 1991