Hen Deyrnas
Jump to navigation
Jump to search
Yr Hen Deyrnas yw'r enw a roddir i'r cyfnod rhwng tua 2686 CC a 2134 CC yn hanes yr Hen Aifft.
Syniad a ddatblygwyd gan eifftolegwyr yn y 19g oedd rhannu hanes yr Hen Aifft yn nifer o deyrnasoedd; nid oedd yr hen Eifftwyr ei hunain yn meddwl am eu hanes fel hyn. Ystyrir bod yr Hen Deyrnas yn cynnwys brenhinoedd y Trydydd Brenhinllin hyd y Chweched Brenhinllin.
Roedd prifddinas yr Aifft ym Memphis yn y cyfnod yma. Yn ystod yr Hen Deyrnas yr adeiladwyd Pyramidau'r Aifft.
Brenhinoedd yr Hen Deyrnas[golygu | golygu cod y dudalen]
3ydd Brenhinllin 2686 CC. – 2613 CC.[golygu | golygu cod y dudalen]
Enw | Nodiadau | Dyddiadau |
---|---|---|
Sanakhte | - | 2686-2668 |
Djoser | Yn gyfrifol am Pyramid Djoser a gynlluniwyd gan Imhotep | 2668- 2649 |
Sekhemkhet | - | 2649- 2643 |
Khaba | - | 2643- 2637 |
Huni | - | 2637- 2613 |
4ydd Brenhinllin[golygu | golygu cod y dudalen]
Nomen (Praenomen) | Nodiadau | Dyddiadau |
---|---|---|
Sneferu | Adeiladodd y Pyramid Cam, pyramid lle mae’r ongl yn newid ran o’r ffordd I fyny’r adeilad. Roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r Pyramid Coch. | 2613- 2589 |
Khufu | Groeg : Cheops. Adeiladodd y Pyramnid Mawr yn Giza. | 2589- 2566 |
Djedefra (Radjedef) | - | 2566- 2558 |
Khafra | Groeg: Chephren | 2558- 2532 |
- | mae rhai ffynonellau yn rhoi Bikheris yma, yn dilyn Manetho | - |
Menkaura | Groeg: Mycerinus | 2532- 2503 |
Shepseskaf | - | 2503- 2498 |
- | mae rhai ffynonellau yn rhoi Thampthis yma, yn dilyn Manetho | - |
5ed Brenhinllin 2498 CC - 2345 CC[golygu | golygu cod y dudalen]
Enw | Nodiadau | Dyddiadau |
---|---|---|
Userkaf | - | 2498- 2491 |
Sahure | - | 2487- 2477 |
Neferirkare Kakai | - | 2477- 2467 |
Shepseskare Isi | - | 2467- 2460 |
Neferefre | - | 2460- 2453 |
Nyuserre Ini | - | 2453- 2422 |
Menkauhor Kaiu | - | 2422- 2414 |
Djedkare Isesi | - | 2414- 2375 |
Unas | - | 2375- 2345 |
6ed Brenhinllin 2345 CC. - 2181 CC.[golygu | golygu cod y dudalen]
Enw | Nodiadau | Dyddiadau |
---|---|---|
Teti | - | 2345- 2333 |
Userkare | - | 2333- 2332 |
Pepi I Meryre | - | 2332- 2283 |
Merenre Nemtyemsaf I | - | 2283- 2278 |
Pepi II Neferkare | Efallai hyd 2224. | 2278- 2184 |
Neferka(plentyn) | Efallai mab Pepi II a/neu yn gyd-frenin. | 2200- 2199 |
Nefer | Teyrnasodd am 2 flynedd, mis a diwrnod yn ôl canon Turin | 2197- 2193 |
Aba | 4 blynedd 2 fis.Ansicr.. | 2293- 2176 |
Anadnabyddus | Brenin dienw | |
Merenre Nemtyemsaf II | Ansicr. | 2184 |
Nitiqret | Merch. Ansicr. | 2184- 2181 |