Hen Bethau Anghofiedig

Oddi ar Wicipedia
Hen Bethau Anghofiedig
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMihangel Morgan
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9781784615062
GenreNofelau Cymraeg

Nofel fer gan Mihangel Morgan yw Hen Bethau Anghofiedig. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2017. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Stori ysbryd yw'r nofel. Yn ôl broliant y llyfr (2017):

Un noson hir o aeaf, mae dau hen ffrind yn cwrdd ar daith drên. Mae gan Merfyn stori iasoer i’w rhannu, un sy’n dechrau gydag etifeddu clamp o dy ar ôl ei fodryb, yr awdures enwog Mona Moffat. Mae ef a’i bartner, Harry, yn breuddwydio am adnewyddu’r hen le ac ymddeol a fywyd gwyllt dinas Llundain … ond wrth i Merfyn godi’r clawr ar orffennol ei deulu mae gwirioneddau erchyll yn bygwth eu rhewi hyd at fêr eu hesgyrn.

Mae'r teitl yn dod o linell y gerdd adnabyddus "Cofio" gan Waldo Williams.[2] Mae'r cerdd yn galaru am golled anochel y gorffennol o'r cof. Mae arwyddocâd yr ymadrodd yng nghyd-destun y nofel ychydig yn wahanol, sy'n awgrymu ei bod yn well anghofio rhai pethau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 28 Hydref 2019
  2. "Cofio"; Gwefan Cymdeithas Waldo Williams; adalwyd 28 Hydref 2019