Hebe Tien
Gwedd
Hebe Tien | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1983 Xinfeng |
Label recordio | HIM International Music |
Dinasyddiaeth | Taiwan |
Galwedigaeth | actor, canwr, actor teledu |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | soprano |
Gwobr/au | QQ Music Awards |
Cantores boblogaidd o Daiwan yw Hebe Tian a elwir hefyd yn Hebe (田馥甄 neu Tián Fùzhēn; ganwyd 30 Mawrth 1983). Mae hi'n nodedig am fod yn rhan o'r grŵp Mandopop S.H.E.[1]
Fe'i ganed yn Ninas Hsinchu City, Taiwan i deulu o Taiwan yn wreiddiol. Wedi iddi fyw yn Hsinchu am ddeunaw mlynedd symudodd y teulu i Taipei.
Yn 2010 cyhoeddodd ei halbwm gyntaf, ar ei liwt ei hun, a chyn pen dim roedd wedi rhyddhau wyth fideo cerdd a welwyd dros 10 miliwn o weithiau ar YouTube. Cynhaliodd ei chyngerdd cyntaf ar 6 Rhagfyr 2014 yn Arena Taipei, pan werthwyd 22,000 o docynnau o fewn 10 munud.[2] Ei chân 'Ychydig o Hapusrwydd' (neu 小幸运) oedd y gân Tsieineeg gyntaf i'w 'weld' dros miliwn o weithiau ar YouTube, a hynny yn Awst 2016.
Albymau
[golygu | golygu cod]- To Hebe (2010)
- My Love (2011)
- Insignificance (2013)
- Day by Day (2016)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Hebe演唱會2.2萬張票 10分鐘賣光". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-23. Cyrchwyd 2017-03-19.
- ↑ [1] Archifwyd 2017-04-23 yn y Peiriant Wayback Hebe演唱會2.2萬張票 10分鐘賣光
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Tsieinëeg) S.H.E @ HIM International
- (Tsieinëeg) Blog Hebe ar Sina.com