Harold Greenwood
Harold Greenwood | |
---|---|
Ganwyd | 1874 |
Bu farw | 17 Ionawr 1929 |
Galwedigaeth | cyfreithiwr |
Cyfreithiwr o Loegr oedd Harold Greenwood (1874 – 17 Ionawr 1929). Cafodd ei gyhuddo (a'i gael yn ddieuog) o lofruddio'i wraig Mabel ym 1920. Cynhaliwyd yr achos yng Nghaerfyrddin, gydag Edward Marshall Hall yn amddiffyn. Mae'r achos yn cael ei weld fel enghraifft brin o gyfreithiwr yn cael ei erlyn am lofruddiaeth.[1]
Symudodd Greenwood i Gymru o Swydd Efrog ym 1898[2] ac roedd ganddo ef a'i wraig Mabel (née Bowater),[3] bedwar o blant a merched yn gweini arnyn nhw yn eu cartref Rumsey House yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin.[4]
Wedi marwolaeth Mabel, priododd Harold ferch ifanc o'r enw Miss Gladys Jones, ychydig fisoedd wedi marwolaeth Mabel. Tad Gladys oedd perchennog The Llanelly Mercury. Mis wedi'r briodas, yn Hydref 1919, hysbyswyd Harold fod yr heddlu'n ystyried codi corff Mabel o'r bedd er mwyn ei archwiliad fforensig a gwnaed hynny yn Ebrill 1920.[5] Wedi ei gael yn ddieuog yn y Llys, trodd y Cymry lleol eu cefnau arno, gan beidio a mynd ato am gyngor a gwaith. Symudodd i Henffordd, ble nad oedd neb yn ei adnabod gan ddefnyddio'r enw "Pilkington" a bu farw yn Ionawr 1929.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sally Clark: Law Gazette". www.sallyclark.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-12. Cyrchwyd 2010-10-22.
- ↑ "Greenwood Murder Trial". www.kidwellyhistory.co.uk. Cyrchwyd 2010-10-22.
- ↑ "Harold Greenwood". llanelli-history.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-20. Cyrchwyd 2010-10-22.
- ↑ Wilson 1984, t. 275
- ↑ Gwefan Saesneg "Kidwelly History"; adalwyd 20 Ebrill 2014.