Hannibal Mago
Hannibal Mago | |
---|---|
Ganwyd | 471 CC ![]() Carthago ![]() |
Bu farw | 406 CC ![]() o clefyd heintus ![]() Agrigento ![]() |
Dinasyddiaeth | Carthago ![]() |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol, gwleidydd ![]() |
Swydd | teyrn Carthago ![]() |
Llinach | Magonids ![]() |
- Peidiwch â drysu'r unigolyn hwn gyda'r cadfridog mwy enwog Hannibal a ymladdodd yn yr Ail Ryfel Pwnig 200 mlynedd yn ddiweddarach. Am enghreifftiau eraill o'r enw Hannibal, gweler Hannibal (gwahaniaethu).
Cadfridog a gwladweinydd Carthaginaidd oedd Hannibal Mago (tua 471 CC – 406 CC).
Roedd yn shofet (barnwr) Carthago yn 410 CC. Yn 409 CC gorchmynnodd byddin Carthaginaidd a aeth i Sisili mewn ymateb i gais gan ddinas Segesta. Ym Mrwydr Selinus cipiodd ddinas Selinus (Selinunte heddiw) ac yna Himera. Yn ystod y goncwest hon dywedwyd iddo ladd tua 3,000 o garcharorion rhyfel o ran dial am y gorchfygiad a ddioddefodd ei daid, Hamilcar Mago, ym Mrwydr Himera 70 mlynedd ynghynt.
Yn 406 CC bu farw yn y pla a gychwynnodd yn ystod gwarchae Agrigento.