Hanes celf
Astudiaeth hanes y celfyddydau gweledol yw hanes celf. Mae'n cwmpasu hanesyddiaeth arlunio, cerfluniaeth, pensaernïaeth, y celfyddydau addurnol, darlunio, argraffu, ffotograffiaeth, a dylunio mewnol. Disgyblaeth academaidd ydyw sydd wedi hen ennill ei blwyf ym mhrifysgolion Ewrop, ac yn un o'r dyniaethau a'r celfyddydau breiniol.
Y dull ysgolheigaidd yw methodoleg draddodiadol hanes celf, sydd yn dibynnu felly ar brofiad, craffter, barn a meddylfryd beirniadol yr ysgolhaig. Disgwylir i hanesyddion celf feddu crap ar gyd-destun hanesyddol a diwylliannol yr arlunydd dan sylw, a dealltwriaeth eang o syniadau, themâu a mudiadau celfyddydol. Mae priodoli a dilysu celfyddydwaith yn nhermau ei arlunydd a chyfnod yn arfer hollbwysig i'r hanesydd celf.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Art history. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2018.