H. F. M. Prescott

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
H. F. M. Prescott
Ganwyd 22 Chwefror 1896 Edit this on Wikidata
Swydd Gaer Edit this on Wikidata
Bu farw 1972 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth Hanesydd, Awdur, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Royal Holloway, Prifysgol Llundain Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Goffa James Tait Black, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Awdures o Loegr oedd H. F. M. Prescott (ganwyd 22 Chwefror 1896) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hanesydd ac yn academydd. Roedd yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, Lloegr.

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Hilda Frances Margaret Prescott yn Swydd Gaer ar 22 Chwefror 1896, yn ferch i'r Parchedig James Mulleneux Prescott a'i wraig Margaret (née Warburton). Fe'i haddysgwyd yn Ysgol uwchradd Wallasey, ac oddi yno aeth i Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen lle derbyniodd radd meistr, ac yna i Brifysgol Manceinion lle cafodd ail radd Meistr mewn hanes yr oesoedd canol. yn Durham, gwnaeth ei doethuriaeth (D.Litt) ac yn 1958 fe'i hetholwyd yn Gymrawd Ymchwil yng ngholeg Holloway Brnhinol, rhan o Brifysgol Llundain (UCL), lle gweithiodd gyda Thomas Wolsey. [1][2]

Mae'n adnabyddus am ei nofel hanesyddol The Man on a Donkey. Wedi'i ysgrifennu ar ffurf cronicl, mae'r llyfr yn adrodd hanes 'Pererindod Grace', sef chwyldro poblogaidd mewn a oedd yn brotest yn erbyn diddymiad y mynachlogydd gan Harri VIII, brenin Lloegr. Mae'r llyfr yn dal i fod mewn print, cyhoeddwyd yr argraffiad diweddaraf ym mis Rhagfyr 2016 gan Apollo, Llundain, ISBN 9781784977719.

Dywedir fod ei bywgraffiad o Mari I, brenhines Lloegr (enw gwreiddiol: Spanish Tudor) yn parhau i fod yn un o'r gweithiau pwysicaf ar Mari, yn ôl y Encyclopædia Britannica. Enillodd wodr James Tait Black am y gyfrol hon yn 1941.

Roedd Prescott yn gefnogwr cynnar o Amnest Rhyngwladol, y sefydliad hawliau dynol, ac o Gymdeithas y Defnyddwyr (Which?). roedd hefyd yn aelod brwd o'r Undeb Saesneg eu Hiaith (English-Speaking Union). Roedd hi'n fenyw o chwaeth syml, ac yn byw am flynyddoedd lawer yn dawel gyda'i chŵn yn nhref fechan Charlbury. Bu farw ym 1972.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Unhurrying Chase (1925). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • The Lost Fight (1928). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • Son of Dust (1932). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • Dead and Not Buried (1938)
  • Spanish Tudor (1940). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • The Man on a Donkey (1952). Cyhoeddwyd gan Eyre & Spottiswoode
  • Jerusalem Journey (1954). Cyhoeddwyd gan Eyre & Spottiswoode
  • Once to Sinai: The further pilgrimage of Friar Felix Fabri (1957). Cyhoeddwyd gan Eyre & Spottiswoode

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  2. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, GND 1034492845, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 15 Hydref 2015Wikidata Q36578