Gwynedd Valley, Pennsylvania
Gwedd
Math | cymuned heb ei hymgorffori |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Lower Gwynedd Township |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Uwch y môr | 269 troedfedd |
Cyfesurynnau | 40.1842°N 75.2564°W |
Cod post | 19437 |
Cymuned heb ei hymgorffori (unincorporated community) ym Montgomery County, talaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America, yw Gwynedd Valley. Mae'n rhan o Lower Gwynedd Township, sy'n cynnwys Gwynedd, Penllyn a Spring House hefyd. Sefydlwyd Gwynedd, Pennsylvania gan Grynwyr Cymreig ym 1698. Holltwyd y gymuned yn Lower Gwynedd ac Upper Gwynedd ym 1891.
Lleolir Prifysgol Gwynedd Mercy yn Gwynedd Valley.[1] Mae Gorsaf reilffordd Gwynedd Valley ar lein SEPTA Lansdale/Doylestown. Mae Cymdeithas Cefnau Wassahickon (Saesneg: Wassahickon Watershed Association) wedi creu Llwybr Ruban Gwyrdd, sy'n mynd trwy Gwynedd Valley.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Prifysgol Gwynedd Mercy
- ↑ "Gwefan Cymdeithas Cefnau Wassahickon". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-19. Cyrchwyd 2015-02-18.