Gwyliau (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwyliau
Albwm stiwdio gan Dewi Williams
Rhyddhawyd Mehefin 2012
Label Final Vinyl

Albwm gan Dewi Williams yw Gwyliau. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2012 ar y label Final Vinyl.

Mae Gwyliau yn albwm cysyniadol gan berfformiwr o Glynnog Fawr sydd wedi bod mewn amryw grwpiau dros y blynyddoedd yn cynnwys Baswca, Y Crwyn, Defaid a Sgwarnogs. Mae Gwyliau’n mynd â ni ar siwrnai gerddorol anhygoel trwy gyfrwng synau reggae, ska, roc a dawns.

Dewiswyd Gwyliau yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’n gywilydd nad yw hon wedi cael mwy o sylw yn y cyfryngau, a’r clod mae’n haeddu... fy hoff albwm i o 2012 heb os nac oni bai

—Owain Schiavone, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]