Gwylfa Abertawe
Math | arsyllfa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.614°N 3.937°W ![]() |
![]() | |
Lleolir Gwylfa Abertawe (sy'n cael ei adnabod hefyd fel Gwylfa Tyrrau'r Marina a Thŵr yr Ecliptig) ym Marina Abertawe, De Cymru. Ceir yno telesgop optigol seryddol fwyaf Cymru.[1] Cynlluniwyd yr adeilad gan Robin Campbell ym 1989. Ym 1993, rhoddwyd fenthyg yr adeilad i Gymdeithas Seryddol Abertawe sydd bellach yn ei redeg.
Mae yna wydr lliw ar ben y tŵr. O ran cyfleusterau gwylio, mae yna telesgop 20-modfedd Shafer-Maksutov - yr ail fwyaf o'i fath yn y byd, yn ogystal â thelesgop yr haul.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Tŷ Agored Abertawe Civic Trust Wales. 2007. Adalwyd ar 2008-02-22
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Ystafell ddosbarth yn y gofod
- (Saesneg) Explore Gower:Tyrrau'r Marina - Gwylfa Abertawe Archifwyd 2007-10-19 yn y Peiriant Wayback.