Gwrthryfel Cymreig 1294–95
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Gwrthryfel Cymreig 1294-95)
Enghraifft o'r canlynol | gwrthryfel |
---|
Gwrthryfel yn erbyn Teyrnas Lloegr gan ddisgynyddion deuluoedd brenhinol Cymru oedd Gwrthryfel Cymreig 1294–95. Yr arweinwyr oedd Madog ap Llywelyn yn y gogledd (a hawliodd y teitl Tywysog Cymru), Maelgwn ap Rhys Fychan yn y de-orllewin, a Morgan ap Maredudd yn y de-ddwyrain. Achosion y gwrthryfel oedd trethi trymion a gormes swyddogion y Brenin Edward I ar y Cymry. Arweiniodd Edward ei hun ei luoedd i drechu'r Cymry, a daeth y gwrthryfel i ben yn sgil buddugoliaeth y Saeson ym Mrwydr Maes Moydog ar 5 Mawrth 1295.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 411 GWRTHRYFEL CYMREIG, Y (1294-5).