Gwrthryfel Bar Kochba

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tetradracma a fathwyd gan Bar Kochba. Ar y cefn, mae arysgrif "Blwyddyn Un o Waredigaeth Israel".

Gwrthryfel Bar Kochba yw'r enw a roddir i ryfel rhwng yr Iddewon ac Ymerodraeth Rhufain, a ymladdwyd rhwng 132 ac 136 O.C.. Daw'r enw o enw arweinydd yr Iddewon, Simon bar Kochba.

Yn 132, cododd yr Iddewon mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerodraeth. Gorfodwyd y lleng Rufeinig Legio X Fretensis i adael Jerusalem a dychwelyd i Cesarea, a meddiannwyd y ddinas gan yr Iddewon. Dinistriwyd y lleng XXII Deiotariana yn llwyr. Llwyddodd bar Kochba i sefydlu gwladwriaeth annibynnol a barhaodd am dair blynedd, gan ei rheoli dan y teitl "Nasi".

Cafodd y Rhufeiniaid gryn drafferth yn rhoi diwedd ar y gwrthryfel yna, ac yn y diwedd bu raid iddynt ddefnyddio deuddeg lleng. Ar ôl brwydro hir, gorfodwyd bar Kochba i encilio i gaer Betar. Llwyddodd y Rhufeiniaid i gipio'r gaer a lladdwyd bar Kochba a'i wŷr. Yn ôl Cassius Dio, lladdwyd 580,000 o Iddewon yn y gwrthryfel, a llosgwyd 50 o drefi caerog a 985 o bentrefi. Dinistriwyd Jerusalem, ac adeiladwyd dinas Rufeinig, Aelia Capitolina, yn ei lle. Bu'r gwrthryfel y gostus iawn i'r Rhufeiniaid hefyd.

Yn dilyn y gwrthryfel, creodd yr ymerawdwr Hadrian dalaith newydd, trwy uno Judaea, Galilea a Samaria i greu talaith Syria Palaestina.