Neidio i'r cynnwys

Gwrnerth y dŵr

Oddi ar Wicipedia
Scrophularia auriculata
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Scrophulariaceae
Genws: Scrophularia
Rhywogaeth: S. auriculata
Enw deuenwol
Scrophularia auriculata
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol lluosflwydd yw Gwrnerth y dŵr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Scrophulariaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Scrophularia auriculata a'r enw Saesneg yw Water figwort.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gornerth y Dŵr, Danhogen y Dŵr, Dannogen y Dŵr, Danogen y Dwfr a Goreunerth y Dŵr.

Mae i'w gael yng ngorllewin Ewrop ac yng ngogledd Affrica. Ei gynefin arferol ydy glannau afonydd, pyllau dŵr a gwlypdiroedd eraill.[2][3] Mae'n tyfu ar i fyny, yn dalsyth, gydag uchder o hyd at 70 cm gyda dail siap ofal, wedi'u gosod bob-yn-ail ar fonyn gwyrdd-borffor.

Ceir blodau bychan, brown a sepalau gwyrdd gydag ymyl gwyn, ac fe'u gwelir yn blodeuo rhwng Mehefin a Medi. Yna gwelir y codau'n datblygu, pob un yn llawn had.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. 2.0 2.1 Water Figwort, Wild Flowers of Ireland, http://www.wildflowersofireland.net/plant_detail.php?id_flower=407&Wildflower=Figwort,%20Water, adalwyd 28 Mehefin 2012
  3. Coombes, Allen J (1992). Guide to Plant Names. Llundain: Octopus Illustrated Publishing. t. 179. ISBN 9780600575450. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help); |access-date= requires |url= (help)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: