Gwlithlys hirddail
| Drosera intermedia | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
| Urdd: | Caryophyllales |
| Teulu: | Droseraceae |
| Genws: | DRosara |
| Rhywogaeth: | D. intermedia |
| Enw deuenwol | |
| Drosera intermedia Hayne, 1800 | |
Planhigyn blodeuol cigysol, blynyddol yw Gwlithlys hirddail sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Droseraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Drosera intermedia a'r enw Saesneg yw Oblong-leaved sundew.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gwlithlys Hirddail, Tawddrudd Hirddail.
Mae'r planhigyn hwn yn byw mewn gwlyptiroedd, rhostir, glannau llynnoedd a mannau tebyg, yn enwedig ar dir calchog. Gall ddal a threulio pryfaid bychan yn ei dentaclau gludiog. Cant eu dennu yno gan arogl siwgwr a gaiff ei greu mewn chwarennau pwrpasol.
Cysylltiadau diwylliannol
[golygu | golygu cod]Bu John Harold [2] yn cofnodi planhigion mewn corstir hyfryd o’r enw Cors y Gwaed, Garndolbenmaen. Un o'r pethau mwyaf amlwg oedd y planhigyn bach coch y gwlithlys hirddail Drosera intermedia, “miloedd ohonynt fel rhwydwaith o lif gwaed wrth ochr y ffrydiau”. Hwn tybed oedd y “gwaed” yn yr enw gofynnodd John?
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Bwletin Llên Natur Rhif 10
