Gwiddonyn (chwilen)

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon am y chwilen. Am yr arachnid, gweler gwiddonyn (arachnid).

Chwilen fach o'r uwch-deulu Curculionoidea yw gwiddonyn (hefyd euddonyn neu wyfyn yr ŷd). Mae mwy na 60,000 o rywogaethau o widdon mewn saith teulu.[1] Maent yn bwydo ar blanhigion (neu weithiau ar ffyngau) ac mae rhai rhywogaethau'n niweidio cnydau. Lleolir y geg a'r teimlyddion ar "drwyn" hir (y rostrwm), fel rheol.

Mae nifer o rywogaethau yn blâu, gan gynnwys y gwiddonyn ŷd, y gwiddonyn reis a'r gwiddonyn cotwm.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Marvaldi, A. E.; A. S. Sequeira, C. W. O'Brien & B. D. Farrell (2002) Molecular and morphological phylogenetics of weevils (Coleoptera, Curculionidae): do niche shifts accompany diversification?, Systematic Biology, 51 (5): 761–785.
Eginyn erthygl sydd uchod am bryf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.