Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gleann Afraig

Oddi ar Wicipedia
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gleann Afraig
Mathdyffryn, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCannich Edit this on Wikidata
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.263844°N 4.985518°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gleann Afraig (Saesneg: Glen Affric) yn un o Gwarchodfeydd cenedlaethol yr Alban. Mae’n cynnwys dyffryn Abhainn Afraig, yn ogystal â dyffrynnoedd gerllaw. Mae’r Afraig yn llifo trwy Loch Beinn a’ Meadhoin ac yn disgyn dros Eas a' Choin (Saesneg: Dog Falls) cyn ymuno ag Abhainn Deabhag i ffurfio Abhainn Ghlais. Mae’r ardal i gyd yn fynyddog a choediog.[1]

Eas a' Choin
Rhaeadrau Ploda
Loch Beinn a’ Meadhoin

Mae’r warchodfa hefyd yn cynnwys Eas Ploda (Saesneg: Plodda Falls), sydd yn 5 cilomedr i’r de-ddwyrain o bentref Tomich. Mae Eos Ploda’n 46 medr o uchder, yn rhan o Allt na Bodachan, sydd yn llifo i’r Abhainn Deabhag[2]. Mae Eos Ploda yn atyniad i dwristiaid ac adeiladwyd gwylfa uwchben Eos Ploda yn 2009.

Roedd Eos Ploda’n rhan o stad Guisachan, eiddo i’r Arglwydd Tweedmouth. Plannwyd ffynidwydd Douglas ar y stad rhwng 1895-1900 a defnyddiwyd y coed fel hwylbrenni ar long Robert Falcon Scott, y Discovery ar gyfer ei thaith i’r Antarctig.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coedwigaeth a Thir yr Alban
  2. Mapiau 'Explorer' yr arolwg Ordnans 309-470
  3. Gwefan britainexpress.com