Gwaith saer

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Seiri coed wrth eu gwaith

Math o grefft yw gwaith saer neu waith coed sy'n ymdrin yn bennaf â'r gwaith o dorri, siapio a gosod deunyddiau adeiladu - pren yn bennaf - fel rhan o waith godi adeiladau, adeiladu llongau, codi pontydd pren, gosod ffurfwaith concrid, ayb. Yn draddodiadol, roedd seiri yn gweithio gyda choed a phren naturiol ac yn gwneud y gwaith garw o fframio, ond mae'r grefft bellach yn defnyddio deunyddiau eraill.[1] Erbyn hyn, mae'r gwaith cain o wneud dodrefn hefyd yn cael eu hystyried yn waith saer.

Mae seiri fel arfer yn dysgu eu crefft trwy brentisiaeth ac yn dod yn gymwys trwy gwblhau profion. Mae hefyd modd dysgu'r grefft trwy brofiad gwaith yn ogystal â rhaglen hyfforddiant ffurfiol.

Pren yw un o'r deunyddiau adeiladu hynaf y ddynoliaeth. Gwellodd y gallu i siapio pren gyda datblygiadau technolegol yn oes y cerrig, oes yr efydd ac oes yr haearn. Mae casys pren a osodwyd ar ffynhonnau dwr a ddarganfuwyd yn nwyrain yr Almaen ymhlith y dystiolaeth archolegol hynaf o waith saer, yn dyddio yn ôl i'r cyfnod neolithig tua 7,000 o flynyddoedd yn ôl.[2]

Serch hynny, cymharol ychydig o wybodaeth sydd i'w chael am waith coed yn y cyfnod cynhanesyddol neu ganrifoedd mwy diweddar gan fod y wybodaeth a'r grefft yn cael ei throsglwyddo o berson i berson, heb ei chofnodi, hyd nes y dyseiswyd y wasg argraffu yn y 15g, ac yn y 18g a'r 19g y dechreuodd adeiladwyr gyhoeddi llyfrau canllaw a phatrwm.

Y testun pensaernïol hynaf sy'n hysbys yw deg llyfr Vitruvius, De architectura, sy'n trafod gwaith saer ymhlith pethau eraill.

Mae temlau yn Tsieina, megis Teml Nanchan a adeiladwyd yn 782, ac Eglwys Greensted, sydd â rhannau sy'n dyddio yn ôl i'r 11g, ac eglwysi 12g a 13g yn Norwy yn rhai o'r adeiladau pren hynaf yn y byd.

Yn yr 16g, gwelwyd mwy o felinau coed yn Ewrop.[3] Roedd archwilio tiroedd America yn cael ei yrru i raddau gan ddyhead am ragor o adnoddau, yn cynnwys coed, i'w defnyddio mewn llongau ac adeiladau yn Ewrop. Cyflwynodd datblygiadau'r Chwyldro Diwydiannol yn y 18g, a dyfeisiadau fel yr injan stêm, hoelion a'r llif gron newidiadau pellach yn nulliau adeiladu, a'r grefft o waith coed o ganlyniad[4]

Bu newidiadau pellach yn y 19g gyda datblygiad dosbarthiad a pheirianyddiaeth drydanol a arweiniodd at declynau a ddelir yn y llaw, sgriwiau a hoelion gwifrau. Daeth sement portland yn gyffredin yn yr 20g a cymerodd sylfeini concrid le siliau pren trymion. Daeth plastrfwrdd hefyd i gymryd lle plastr calch ar aisiau pren. Ymddangosodd mathau o goed oedd wedi'u peiriannu a'u trin yn gemegol hefyd.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Roza, Greg. A career as a carpenter. New York: Rosen Pub., 2011. 6. Print.
  2. Prostak, Sergio. "German Archaeologists Discover World's Oldest Wooden Wells." Breaking Science News SciNewscom. Sci-News.com, 24 Dec. 2012. Web. 26 Feb. 2015. <http://www.sci-news.com/archaeology/article00788.html>.
  3. Davey, Norman. A history of building materials. London: Phoenix House, 1961. Print.
  4. Loveday, Amos John. The cut nail industry, 1776-1890: technology, cost accounting and the upper Ohio Valley. Ann Arbor, Mich.: University Microfilms International, 1979. Print.
  5. Jester, Thomas C.. Twentieth-century building materials: history and conservation. New York: McGraw-Hill, 1995. Print.