Grawnafa

Oddi ar Wicipedia
Punica granatum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Myrtales
Teulu: Lythraceae
Genws: Punica
Rhywogaeth: P. granatum
Enw deuenwol
Punica granatum
Carl Linnaeus
Cyfystyron
Punica malus
Carolus Linnaeus

Llysieuyn blodeuol lluosflwydd sy'n tyfu yn Ewrop yw'r pomgranad, neu'r Grawnafa sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Lythraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Punica granatum a'r enw Saesneg yw Pomegranate.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Afal Gronynnog, Pomgranaden, Pomgranadwydden.

Mae'n tyfu i uchder o rhwng 5 ac 8 m (16–26 tr). Gosodir y dail mewn parau cyferbyn a'i gilydd, a thyf petalau'r blodyn o wefus tiwb y blodamlen (y calycs). Mae'r blodau'n nodweddiadol o'r teulu hwn gan fod y petalau wedi'u crychu fel hen femrwn. Mae'r ffrwyth yn llawn hadau a sudd bwytadwy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: