Gravity

Oddi ar Wicipedia
''Gravity''

Poster marchnata
Cyfarwyddwr Alfonso Cuarón
Cynhyrchydd Alfonso Cuarón
David Heyman
Ysgrifennwr Alfonso Cuarón
Jonás Cuarón
Serennu Sandra Bullock
George Clooney
Cerddoriaeth Steven Price
Sinematograffeg Emmanuel Lubezki
Golygydd Alfonso Cuarón
Mark Sanger
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Esperanto Filmoj
Heyday Films
Dosbarthydd Warner Bros. Pictures
Dyddiad rhyddhau 28 Awst 2013 (Fenis)
4 Hydref 2013 (UDA)
8 Tachwedd 2013 (DU)
Amser rhedeg 90 munud[1]
Gwlad Y Deyrnas Unedig[2]
Unol Daleithiau America[2]
Iaith Saesneg
Cyllideb $100 miliwn[3]
Refeniw gros $688,508,962[3]

Ffilm wyddonias gyffrous 3D o 2013 yw Gravity, sy'n gyd-gynhyrchiad Prydeinig ac Americanaidd.[3][4] Mae rhai wedi ei disgrifio'n ffilm ddrama a leolir yn y gofod yn hytrach na ffilm wyddonias.[5][6] Cyfarwyddodd Alfonso Cuarón y ffilm yn ogystal â'i chyd-ysgrifennu, cyd-gynhyrchu a chyd-olygu, ac mae'n serennu Sandra Bullock a George Clooney fel gofodwyr sy'n ceisio dychwelyd i'r Ddaear wedi dinistriad gwennol ofod tra mewn orbit.

Ysgrifennodd Cuarón y sgript gyda'i fab Jonás gan gynnig y syniad i Universal Studios. Gwerthwyd hawliau'r prosiect i Warner Bros. yn y bôn. Cynigodd y stiwdio'r brif ran fenywaidd i nifer o actoresau cyn dewis Bullock. Robert Downey, Jr. oedd y prif actor cyn iddo adael y prosiect a chymerodd Clooney'r rhan. Cynhyrchwyd y ffilm gan Cuarón a David Heyman, a weithiodd ynghynt gyda Cuarón ar Harry Potter and the Prisoner of Azkaban. Creodd y cwmni Framestore yn Llundain y mwyafrif o'r effeithiau gweledol ar gyfer y ffilm, sy'n llenwi dros 80 munud o'r amser rhedeg.

Gravity oedd ffilm agoriadol y ddegfed Ŵyl Ffilm Fenis ar drigain ym mis Awst 2013.[7] Dangoswyd y ffilm yn gyntaf yng Ngogledd America tridiau'n ddiweddarach yng Ngŵyl Ffilm Telluride. Rhyddhawyd ar led yr Unol Daleithiau a Chanada ar 4 Hydref 2013, ac yn y Deyrnas Unedig ar 8 Tachwedd 2013. Cafodd y ffilm clod gan feirniaid a chynulleidfaoedd, gan dderbyn canmoliaeth am waith y sinematograffydd Emmanuel Lubezki, sgôr gerddorol Steven Price, y cyfarwyddo gan Cuarón, perfformiad Bullock, a'r effeithiau gweledol gan Framestore.

Cafodd y ffilm ei enwebu am 10 o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau am Cuarón a'r Actores Orau am Bullock. Enillodd y ffilm saith o'r Critics Choice Awards a Gwobr Golden Globe am y Cyfarwyddwr Gorau i Cuarón.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "GRAVITY (12A)". Warner Bros. British Board of Film Classification. August 23, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd August 23, 2013.
  2. 2.0 2.1 "Gravity". Toronto International Film Festival. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-25. Cyrchwyd 2014-01-29.
  3. 3.0 3.1 3.2 Staff (16 Ionawr 2014). "Gravity". Box Office Mojo. Cyrchwyd 28 Ionawr 2014.
  4. Berardinelli, James (3 Hydref 2013). "Gravity – A Movie Review". ReelViews. Cyrchwyd 7 Hydref 2013.
  5. Chris Lackner (27 Medi 2013). "Pop Forecast: Gravity is gripping space drama and it's gimmick free". The Vancouver Sun. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-30. Cyrchwyd 3 Hydref 2013.
  6. "Girl on a wire: Sandra Bullock talks about her new space drama, Gravity". South China Morning Post. Cyrchwyd 3 Hydref 2013.
  7. "George Clooney and Sandra Bullock to open Venice film festival". BBC News.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]