Neidio i'r cynnwys

Siart

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Graff)
Siart cylch sy'n dangos marwolaethau milwrol y Rhyfel Byd 1af - o ran y Cynghreiriaid, yn ôl gwlad.
Erthygl ar y dull 2-D a 3-D o gyflwyno data yn weledol yw hwn, am y parau o wrthrychau sy'n cynrychioli fertigau, gweler: Graff (mathemateg arwahanol).

Data wedi'i gynrychioli mewn modd graffigol a gweledol yw siart, neu 'siart data'. Cynrychiolir y data gan symbolau megis bariau mewn siart bar, llnellau mewn siart llinell neu sleisen mewn siart cylch. Gall arddangos data rhifol ar ffurf tabl neu ffwythiannau ac unrhyw strwythurau o symiau gan ei gyflwyno i'r darllenydd mewn modd gymharol syml.[1]

Mae gan y term "siart", fel cynrychiolaeth graffigol o ddata, sawl ystyr:

  • Math o ddiagram neu graff yw siart data, sy'n trefnu ac yn cynrychioli set o ddata rhifiadol neu ansoddol (qualitative).
  • Gelwir mapiau gyda gwybodaeth ychwanegol (yn yr ymylon) yn aml yn siartiau, e.e. siartiau môr neu siartiau i fapio lleoliad awyrennau, a gall y siartiau hyn gael eu harddangos dros nifer o ran-fapiau.
  • Weithiau, gelwir ffurfiau eraill ar gyfer parth yn siartiau, megis 'siart cordiau' mewn nodiant cerddoriaeth neu siart record ar gyfer poblogrwydd albwm.

Defnyddir siartiau'n aml i'w gwneud hi'n haws deall swm anferthol o ddata, a'r berthynas rhwng rhannau o'r data. Fel arfer, gall siartiau gael eu darllen yn gyflymach na'r data crai. Fe'u defnyddir mewn amrywiaeth eang o feysydd, a gellir eu creu â llaw (yn aml ar bapur graff) neu drwy gyfrifiadur gan ddefnyddio meddalwedd siartio. Mae rhai mathau o siartiau yn fwy defnyddiol ar gyfer cyflwyno set ddata benodol nag eraill. Er enghraifft, mae data sy'n cyflwyno canrannau mewn gwahanol grwpiau (fel atebion i holiadur: "bodlon", "anfodlon", "ansicr" ayb) yn cael eu harddangos yn aml mewn siart cylch, ond mae'n bosibl eu bod yn haws eu deall pan fyddant yn cael eu cyflwyno mewn siart bar llorweddol. Ar y llaw arall, mae'n bosibl y bydd y data sy'n cynrychioli niferoedd sy'n newid dros gyfnod o amser (fel "Incwm Blynyddol o 2018 i 2019") yn cael ei ddangos orau fel siart llinell.

Rhai mathau

[golygu | golygu cod]

Siartiau mwyaf cyffredin

[golygu | golygu cod]
  1. Histogram: math o siart bar sy'n ddull o ddangos dosbarthiad amlder
  2. Siart bar: dull o ddangos amlder dosbarthiad. Ceir nifer yr achosion ar yr echelin fertigol.
  3. Siart cylch: fe'i defnyddir yn aml i ddangos hyn-a-hyn y cant (canrannau)
  4. Siart llinell: sy'n dangos data cysylltiedig, di-dor.

Plotio

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cary Jensen, Loy Anderson (1992). Harvard graphics 3: the complete reference. Osborne McGraw-Hill ISBN 0-07-881749-8 p.413