Graddfa maint moment

Oddi ar Wicipedia
Difrod i Argae Shi Gang.

Defnyddir Graddfa maint moment (a dalfyrir o'r enw gwreiddiol arno, sef: moment magnitude scale ac a ddynodir fel MW) gan seismolegwyr i fesur maint daergrynfeydd yn nhermau'r ynni sy'n cael ei ryddhau ohono.[1] Caiff ei ddiffinio gan fformiwla lle mae'r foment seismig yn hafal i hyblygrwydd y Ddaear wedi'i luosi gyda swm y "llithro" a maint yr ardal a lithrodd. Datblygwyd y raddfa hon yn 1979 gan seismolegwyr o Caltech: Thomas C. Hanks a Hiroo Kanamori i ddisodli'r hen Raddfa Richter (ML). Y raddfa maint moment yw'r raddfa a ddefnyddir, bellach, drwy'r byd i fesur daeargrynfeydd o faint canolig neu uwch.

Diffiniad[golygu | golygu cod]

Y symbol am y raddfa hon yw , gyda'r isysgrif yn golygu gwaith mecanyddol wedi'i orffen. Mae'r maint maint yn rhif diddeimensiwn (heb uchafswm) sy'n cael ei ddiffinio fel

ble mae yn faint y foment seismig mewn centimeters "dyne" (10−7 N·m). Mae'r gwerthoedd yn yr hafaliad yn cael eu pennu er mwyn cysoni'r raddfa gyda gwerthoedd graddfeydd eraill e.e. y raddfa Richter. Mae un cam ar y raddfa (yn union fel graddfa Richter) yn hafal i 101.5 ≈ 32 gwaith y swm o ynni sy'n cael ei ryddhau ac mae symud dau gam ar y raddfa yn cyfystyr i gynnydd o 103 = 1000 gwaith yr ynni a ryddhawyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Saesneg Journal of Geophysical Research" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-08-21. Cyrchwyd 2011-03-13.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]