Gorsaf reilffordd Stogumber
Gwedd


Mae Gorsaf reilffordd Stogumber yn orsaf reilffordd tua milltir o’r pentref Stogumber, Gwlad yr Haf. Mae un platfform, gyda adeilad arno. Mae hen ddoc gwartheg yn ymyl y maes parcio. Mae gan yr orsaf caffi. Mae gan y pentref siop, swyddfa’r post a tafarn a neuadd y pentref.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd yr orsaf ym 1862 fel rhan o Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf wreiddiol. Adeiladwyd lloches i deithwyr ym 1868, ac estynnwyd y platfform ym 1893. Adeiladwyd y doc gwartheg a swyddfa nwyddau. Erbyn hyn mae gan yr orsaf blatfform concrit, ac mae’r sied yn gopi o’r un gwreiddiol. Mae grŵp o wirfoddolwyr yn rhedeg yr orsaf erbyn hyn, sy’n rhan o’r rheilffordd treftadaeth agorwyd ym 1976.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-24. Cyrchwyd 2022-10-24.