Gorsaf reilffordd Parcffordd Maes Awyr Southampton
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf reilffordd maes awyr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Southampton Airport |
Agoriad swyddogol | 1966, 1929 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Eastleigh |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.9503°N 1.3634°W |
Cod OS | SU448170 |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | SOA |
Rheolir gan | South Western Railway |
Mae gorsaf reilffordd Parcffordd Maes Awyr Southampton (Saesneg: Southampton Airport Parkway) yn orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu Maes Awyr Southampton yn nhref Eastleigh, Hampshire, Lloegr. Mae ar Brif Linell y De Orllewin o Waterloo Llundain.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorodd yr orsaf ar 30 Hydref 1929 fel Atlantic Park Hostel Halt. Fodd bynnag, caeodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Ar 1 Ebrill 1966, cafodd ei ailagor fel Southampton Airport gan British Rail.
Gwasanaethau
[golygu | golygu cod]Gwasanaethir yr orsaf gan South Western Railway, Southern, CrossCountry a Great Western Railway. I'r dwyrain, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Waterloo Llundain a Brighton. I'r gorllewin, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Bournemouth, Weymouth, Westbury a Chaersallog. I'r gogledd, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Newcastle, New Street Birmingham a Fanceinion Piccadilly. I'r de, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Romsey a Harbwr Portsmouth.