Gorsaf reilffordd Horsted Keynes

Oddi ar Wicipedia
locomotif a fan brec yng Ngorsaf Horsted Keynes
Locomotif 'Terrier' yn yr orsaf

Adeiladwyd Gorsaf reilffordd Horsted Keynes gan Reilffordd Llundain, Brighton ac Arfordir Deheuol ym 1882 i wasanaethu pentre Horsted Keynes yn Sussex.

Erbyn hyn, mae'n rhan o Reilffordd Bluebell ac wedi cael ei addurno fel oedd hi yn y 1920au. Yn wreiddiol, roedd hi'n gyffordd, lle ymunodd lein o Haywards Heath â'r prif lein o East Grinstead i Lewes. Defnyddir yr orsaf ar gyfer ffilmau a dramae teledu[1], gan gynnwys Downton Abbey yn ddiweddar.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]