Gorsaf reilffordd Canolog, Sydney

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Canolog, Sydney
Mathgorsaf reilffordd, transport hub, gorsaf pengaead Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol4 Awst 1906 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSydney, Dinas Sydney, St Lawrence, De Cymru Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Uwch y môr30 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.8825°S 151.2067°E Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Rheolir ganSydney Trains Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolPensaernïaeth Adfywiad y Dadeni Edit this on Wikidata
PerchnogaethRail Corporation New South Wales Edit this on Wikidata
Statws treftadaethLocal Environmental Plan Edit this on Wikidata
Manylion

Gorsaf reilffordd Canolog, Sydney yw prif orsaf reilffordd dinas Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia, a’r un mwyaf a'r prysuraf yn Ne Cymru Newydd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd terminws cyntaf Sydney ym 1849, ehwng Strydoedd Devonshire a Cleveland, ar ben dyheuol y ddinas, a datblygodd yr ardal yn sylweddol ar ôl cyrhaeddiad yr orsaf.

Adeiladwyd yr orsaf wreiddiol ar y safle presennol ym 1855. Yr un bresennol yw’r drydedd ar y safle, yn disodli adeiladau gan gynnwys depo tramffordd, barics yr heddlu a gwallgofdy, yn ogystal â mynwent Heol Devonshire. Ail-leolwyd y beddau mewn mynwentydd eraill yn Botany a Bunnerong.[1]

Adeiladwyd Gorsaf reilffordd y Marwdy ym 1869, yn ymyl mynwent newydd, Rookwood, gyda seidin, ystafelloedd aros a chapel, yn ymyl safle'r orsaf bresennol.

Disodlwyd adeiladau'r orsaf Canolog wreiddiol gan adeiladau newydd ym 1876. Ychwanegwyd Sefydliad Rheilffordd ym 1890, i fod yn ganolfan addysg a chymdeithasu ar gyfer gweithwyr y rheilffordd.

Dechreuodd gwaith i ehangu gwasanaethau i'r maestrefi, gan gynnwys mwy o draciau, ym 1888, ac adeiladwyd yr orsaf bresennol rhwng 1901 a 1906, yn cynnwys 15 platfform. Agorwyd yr orsaf ar 5 Awst 1906. W.L.Vernon oedd y pensaer. Mae gan brif adeilad yr orsaf nodweddiadau neo-glasurol, ac yn cynnwys defnydd o dywodfaen cerfiedig, marmor a therazzo. Gwahanwyd trenau, tramiau, ceir a theithwyr gan adeiladu'r orsaf ar 4 lefel gwahanol. Crewyd porte cochere, mynediad i gerbydau, sydd erbyn hyn yn cael ei defnyddio gan Metro Sydney. Roedd adeiladau'r orsaf yn uwch na'r adeiladu eraill o'i chwmpas. Ychwanegwyd twr cloc ym 1921 a platfformau 16-23 (yr Orsaf Canolog Trydanol) i’r maestrefi rhwng 1926 a 1932. Rhowyd iddynt enw 'Canolog' i'w gwahaniaethu o'r platfformau eraill. Aeth y trên trydanol cyntaf o'r orsaf ar 1 Mawrth 1926. Mae wynebau’r cloc yn 85.6 medr uwchben y stryd, ac mae 272 o grisiau’n arwain atynt. Crewyd neuadd tocynnau rhyngdaleithiol ym 1951. Ychwanegwyd platfformau 24 a 25 ym 1979 ar gyfer trenau’r Rheilffordd Maestrefi Dwyreiniol.

Agorwyd rhan cyntal y rheilffordd danddaearol ym mis Rhagfyr 1926, gyda threnau i'r Amgueddfa ac i St James.

Mae mynedfa’r orsaf yn ardal agored, gyda chloc o dan y to. Defnyddiwyd brics a thywodfaen i greu’r wal ogleddol. Mae cyfleusterau gwybodaeth a gwerthu tocynnau yng nghanol y fynedfa. Mae hefyd canolfan dreftadaeth, swyddfeydd y rheilffyrdd, caffis, siop papurau newydd a bar, i gyd lleolir yn yr hen ystafelloedd bwyta, lle mae murlun yn dangos hen reilffyrdd Awstralia. Mae swyddfa’r stationfeistr yn ymyl y platfformau ar ochr dde-ddwyreiniol y fynedfa.

Mae gan y brif orsaf 7 platfform dwbl ac un sengl, pob un gyda ‘i tho ei hun. Defnyddir platfformau 1-3 gan drenau gwledig a rhwngdaleithiol, a’r gweddill gan drenau i’r maestrefi. Estynnwyd platfformau 1-3 ym 1962, a chawsant doeon newydd yn y 90au. Fel arfer, mae’r Indian Pacific yn defnyddio platfform 1 a defnyddir y seidins cyfagos i lwytho ceir ar y trên. Roedd swyddfa parseli ar ben dyheuol platfform 1, ond daeth hi’n hostel i heicwyr yn 2000.[2]

Trenau[golygu | golygu cod]

Mae’r leiniau canlynol yn cyrraedd yr orsaf:-[3]

  • T1 Arfordir gogleddol
  • T1 Gogleddol
  • T1 Gorllewinol
  • T2 Maes Awyr
  • T2 Gorllewin mewnol a De
  • T3 Bankstown
  • T4 Maestrefi dwyreiniol ac Illawarra
  • Y Mynyddoedd gleision
  • Arfordir canolog a Newcastle
  • Arfordir y De
  • Ucheldir deheuol

Sydney Metro[golygu | golygu cod]

Bwriadir adeiladu rhwydwaith Sydney Metro, i agor yn raddol o 2019 ymlaen, yn cynnwys gorsaf o dan yr orsaf reilffordd Canolog.[4] Adeiladir cyntedd dandaearol hefyd erbyn canol y 2020au.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]