Gorsaf reilffordd Canolog, Sydney
Math | gorsaf reilffordd, transport hub, gorsaf pengaead, gorsaf metro |
---|---|
Agoriad swyddogol | 4 Awst 1906 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sydney, Dinas Sydney, St Lawrence, De Cymru Newydd |
Gwlad | Awstralia |
Uwch y môr | 30 metr |
Cyfesurynnau | 33.8825°S 151.2067°E |
Rheilffordd | |
Rheolir gan | Sydney Trains |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Adfywiad y Dadeni |
Perchnogaeth | Rail Corporation New South Wales |
Statws treftadaeth | Local Environmental Plan |
Manylion | |
Gorsaf reilffordd Canolog, Sydney yw prif orsaf reilffordd dinas Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia, a’r un mwyaf a'r prysuraf yn Ne Cymru Newydd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd terminws cyntaf Sydney ym 1849, ehwng Strydoedd Devonshire a Cleveland, ar ben dyheuol y ddinas, a datblygodd yr ardal yn sylweddol ar ôl cyrhaeddiad yr orsaf.
Adeiladwyd yr orsaf wreiddiol ar y safle presennol ym 1855. Yr un bresennol yw’r drydedd ar y safle, yn disodli adeiladau gan gynnwys depo tramffordd, barics yr heddlu a gwallgofdy, yn ogystal â mynwent Heol Devonshire. Ail-leolwyd y beddau mewn mynwentydd eraill yn Botany a Bunnerong.[1]
Adeiladwyd Gorsaf reilffordd y Marwdy ym 1869, yn ymyl mynwent newydd, Rookwood, gyda seidin, ystafelloedd aros a chapel, yn ymyl safle'r orsaf bresennol.
Disodlwyd adeiladau'r orsaf Canolog wreiddiol gan adeiladau newydd ym 1876. Ychwanegwyd Sefydliad Rheilffordd ym 1890, i fod yn ganolfan addysg a chymdeithasu ar gyfer gweithwyr y rheilffordd.
Dechreuodd gwaith i ehangu gwasanaethau i'r maestrefi, gan gynnwys mwy o draciau, ym 1888, ac adeiladwyd yr orsaf bresennol rhwng 1901 a 1906, yn cynnwys 15 platfform. Agorwyd yr orsaf ar 5 Awst 1906. W.L.Vernon oedd y pensaer. Mae gan brif adeilad yr orsaf nodweddiadau neo-glasurol, ac yn cynnwys defnydd o dywodfaen cerfiedig, marmor a therazzo. Gwahanwyd trenau, tramiau, ceir a theithwyr gan adeiladu'r orsaf ar 4 lefel gwahanol. Crewyd porte cochere, mynediad i gerbydau, sydd erbyn hyn yn cael ei defnyddio gan Metro Sydney. Roedd adeiladau'r orsaf yn uwch na'r adeiladu eraill o'i chwmpas. Ychwanegwyd twr cloc ym 1921 a platfformau 16-23 (yr Orsaf Canolog Trydanol) i’r maestrefi rhwng 1926 a 1932. Rhowyd iddynt enw 'Canolog' i'w gwahaniaethu o'r platfformau eraill. Aeth y trên trydanol cyntaf o'r orsaf ar 1 Mawrth 1926. Mae wynebau’r cloc yn 85.6 medr uwchben y stryd, ac mae 272 o grisiau’n arwain atynt. Crewyd neuadd tocynnau rhyngdaleithiol ym 1951. Ychwanegwyd platfformau 24 a 25 ym 1979 ar gyfer trenau’r Rheilffordd Maestrefi Dwyreiniol.
Agorwyd rhan cyntal y rheilffordd danddaearol ym mis Rhagfyr 1926, gyda threnau i'r Amgueddfa ac i St James.
Mae mynedfa’r orsaf yn ardal agored, gyda chloc o dan y to. Defnyddiwyd brics a thywodfaen i greu’r wal ogleddol. Mae cyfleusterau gwybodaeth a gwerthu tocynnau yng nghanol y fynedfa. Mae hefyd canolfan dreftadaeth, swyddfeydd y rheilffyrdd, caffis, siop papurau newydd a bar, i gyd lleolir yn yr hen ystafelloedd bwyta, lle mae murlun yn dangos hen reilffyrdd Awstralia. Mae swyddfa’r stationfeistr yn ymyl y platfformau ar ochr dde-ddwyreiniol y fynedfa.
Mae gan y brif orsaf 7 platfform dwbl ac un sengl, pob un gyda ‘i tho ei hun. Defnyddir platfformau 1-3 gan drenau gwledig a rhwngdaleithiol, a’r gweddill gan drenau i’r maestrefi. Estynnwyd platfformau 1-3 ym 1962, a chawsant doeon newydd yn y 90au. Fel arfer, mae’r Indian Pacific yn defnyddio platfform 1 a defnyddir y seidins cyfagos i lwytho ceir ar y trên. Roedd swyddfa parseli ar ben dyheuol platfform 1, ond daeth hi’n hostel i heicwyr yn 2000.[2]
Trenau
[golygu | golygu cod]Mae’r leiniau canlynol yn cyrraedd yr orsaf:-[3]
- T1 Arfordir gogleddol
- T1 Gogleddol
- T1 Gorllewinol
- T2 Maes Awyr
- T2 Gorllewin mewnol a De
- T3 Bankstown
- T4 Maestrefi dwyreiniol ac Illawarra
- Y Mynyddoedd gleision
- Arfordir canolog a Newcastle
- Arfordir y De
- Ucheldir deheuol
Sydney Metro
[golygu | golygu cod]Bwriadir adeiladu rhwydwaith Sydney Metro, i agor yn raddol o 2019 ymlaen, yn cynnwys gorsaf o dan yr orsaf reilffordd Canolog.[4] Adeiladir cyntedd dandaearol hefyd erbyn canol y 2020au.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan sydneytains.info
- Gwefan greatsouthernrail Archifwyd 2017-10-22 yn y Peiriant Wayback