Gorsaf reilffordd Arley

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arley01LB.jpg

Mae Gorsaf reilffordd Arley yn orsaf ar Rheilffordd Dyffryn Hafren. Agorwyd yr orsaf pan agorwyd y rheilffordd wreiddiol ym 1862. Roedd yr adeiladau gwreiddiol yn cynnwys tŷ’r gorsaf-feistr, swyddfa tocynnau ac ystafell aros. Ychwanegyd ystafell aros i ferched yn ddiweddarach. Defnyddiwyd brics llwydfelen, gyda to llechi Cymreig. Ychwanegwyd cysgodfa aros ar y platfform arall a chaban signal yn ysod yr 1880au. Dinistriwyd y caban gwreiddiol pan gaewyd y rheilffordd ym 1964. Mae’r caban presennol yn dod o orsaf reilffordd Yorton, rhwng Cryw ac Amwythig.[1]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]