Neidio i'r cynnwys

Gorsaf fysiau Merthyr Tudful

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf fysiau newydd yn 2021

Gorsaf fysiau sy'n gwasanaethu'r dref Merthyr Tudful yw Gorsaf fysiau Merthyr Tudful.

Roedd y lleoliad gwreiddiol yr orsaf i'r gogledd o'r canol y dre ar bwys Stryd y Castell. Adeiladwyd yn y 1960au, roedd hi rhan o'r ganolfan siopa drws nesa. Roedd yn cynnwys dwy gromlin fawr, wedi'u cynllunio i sianelu pobl tuag at y siopau.[1]

Hen orsaf yn 2010

Datgelwyd cynlluniau yn 2014 i symud yr orsaf fysiau yn agosach i'r orsaf rheilffordd. Basai'r safle newydd ar Heol yr Alarch a basai'n bosib i gadw'r hen orsaf yn agor yn y cyfamser.[2] Dechreuodd y gwaith adeiladu o’r diwedd yn Gorffennaf 2019, gyda chymorth o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.[3]

Agorwyd yr orsaf fysiau newydd ar 13 Mehefin 2021. Roedd disgwyl y byddai'r drydedd orsaf fysiau brysuraf yng Nghymru, gyda wasanaethau gan Stagecoach, First Call Travel, NAT and Peter’s Minibus.[4] Roedd caffi a chiosg coffi ar gael i gwsmeriadau a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Powel, Meilyr (Tachwedd 2020). Merthyr Tydfil Bus Station. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2024.
  2. (Saesneg) Machin, Nick (23 Gorffenaf 2014). Merthyr Tydfil's bus station is on the move. Wales Online. Adalwyd ar 25 Gorffenaf 2024.
  3. (Saesneg) Lewis, Anthony (3 Gorffenaf 2019). Work starts on building Merthyr Tydfil's new bus station imminently. Wales Online. Adalwyd ar 25 Gorffenaf 2024.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Lewis, Anthony (4 Mehefin 2021). Merthyr's new £12m bus station given official opening date. Wales Online. Adalwyd ar 25 Gorffenaf 2024.