Gorflino

Oddi ar Wicipedia

Mae gorflino’n gyflwr o flinder emosiynol, meddyliol a chorfforol sy’n cael ei achosi gan straen eithafol ac estynedig. Mae’n digwydd pan fyddwch yn teimlo wedi’ch llethu, yn flinedig yn emosiynol, ac yn methu â chyrraedd gofynion cyson. Mae gorflino’n broses raddol. Mae’r arwyddion a’r symptomau yn gynnil i ddechrau, ond wrth i amser fynd yn ei flaen maent yn gwaethygu.[1]

Achosion[golygu | golygu cod]

Mae gorflino’n aml yn deillio o’ch swydd, ond mae unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn gorweithio ac wedi’u tanbrisio mewn perygl o orflino.

Achosion gorflino sy’n ymwneud â gwaith[golygu | golygu cod]

  • Teimlo fel petai nad oes gennych unrhyw reolaeth neu ond ychydig o reolaeth dros eich gwaith
  • Diffyg cydnabyddiaeth neu wobr ar gyfer gwaith da
  • Disgwyliadau swydd aneglur sy’n gofyn llawer
  • Gwneud gwaith sy’n undonog neu heb her
  • Gweithio mewn amgylchedd anhrefnus sy’n peri straen

Achosion gorflino sy’n ymwneud â ffordd o fyw[golygu | golygu cod]

  • Gweithio’n ormodol, heb ddigon o amser i gymdeithasu neu ymlacio
  • Diffyg perthnasau agos a chefnogol
  • Bod â gormod o gyfrifoldebau, heb ddigon o gymorth gan eraill
  • Dim digon o gwsg

Symptomau Corfforol[golygu | golygu cod]

  • Teimlo’n flinedig ac wedi’ch llethu y rhan fwyaf o’r amser
  • Imiwnedd isel, bod yn sâl yn aml
  • Cur pen neu boenau cyhyrol aml
  • Newid mewn awydd bwyd neu arferion cysgu

Symptomau emosiynol[golygu | golygu cod]

  • Ansicrwydd yn eich hun a theimlo eich bod wedi methu
  • Teimlo’n ddiymadferth, yn gaeth, ac yn rhwystredig
  • Datgysylltiad, teimlo ar ben eich hun yn y byd
  • Diffyg cymhelliant
  • Agwedd sy’n fwyfwy sinigaidd a negyddol
  • Llai o foddhad ac ymdeimlad is o lwyddiant

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Gallwch gymryd camau cadarnhaol er mwyn ymdopi â gorflino a dod â’r cydbwysedd yn ôl i’ch bywyd.

Mae siarad wyneb yn wyneb â rhywun yn ffordd gyflym o dawelu eich system nerfol a lleihau straen. Os ydych yn casáu eich swydd, chwiliwch am ystyr a boddhad rhywle arall yn eich bywyd; yn eich teulu, ffrindiau, diddordebau neu waith gwirfoddol. Rhowch sylw i’r rhannau hynny o’ch bywyd sy’n eich gwneud yn hapus. Peidiwch â gorlwytho eich hun. Mae ymarefer corff yn rheolaedd yn ffordd da o lleihau straen.

Mae meddygon yn rhagnodi amrywiaeth o driniaethau ar gyfer gorflino gan gynnwys cyffuriau meddygol a newidiadau i'ch ffordd o fyw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gorflino". meddwl.org. 2017-11-30. Cyrchwyd 2022-03-05.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Gorflino ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall