Goreu fab Custennin

Oddi ar Wicipedia

Un o arwyr y chwedl Culhwch ac Olwen yw Goreu fab Custennin (Cymraeg Diweddar: Gorau fab Custennin). Ef sy'n torri pen Ysbaddaden Bencawr ar ddiwedd y chwedl honno.

Mae lle i gredu mai Goreu oedd arwr ifanc rhan ganolog y chwedl yn wreiddiol a bod chwedl neu mabinogi amdano ar un adeg ond sydd ar goll erbyn heddiw.

Ef yw'r olaf o bedwar mab ar hugain Custennin, heusawr (bugail) Ysbaddaden. Lladdwyd y lleill gan Ysbaddaden ac felly mae ei dad yn cuddio'r llanc penfelen mewn cist. Mae un testun o'r chwedl yn dweud fod Custennin ac Ysbaddaden yn frodyr ond bod cynnen wedi codi rhyngddynt.[1]

Ymuna'r llanc yn ymchwil Culhwch am yr Annoethau - y tasgau tu hwnt o anodd i'w cyflawni a osodir fel amodau ar Culhwch gan Ysbaddaden i ennill ei ferch Olwen - ac mae'n chwarae rhan arbennig yn yr ymgyrch i gael cleddyf Wrnach Gawr. Mewn canlyniad mae'n ennill iddo'i hun ei enw ar ôl i un o'r arwyr eraill ddweud "goreu dyn yw" (ond dichon mai cais gan y cyfarwydd i esbonio'r enw yw hyn).[2]

Yn y diwedd, mae Goreu yn torri pen Ysbaddaden ac yn meddiannu ei gaer a'i diroedd, mewn dial am ei frodyr a'r sarhad a gafodd ei dad. Felly mae'n cymryd lle Ysbaddaden.

Mae un o Trioedd Ynys Prydain, sef 'Tri Goruchel Garcharor Ynys Prydain', yn dweud mai Goreu fab Custennin a ryddhaodd Arthur o dri charchar arallfydol. Mae hyn hefyd yn awgrymu y bu chwedl neu chwedlau gyda Goreu yn arwr yn cylchredeg ar un adeg.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988), tud. xlii.
  2. Culhwch ac Olwen, tud. xlii.
  3. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), triawd 52 a'r nodiadau.
  4. Culhwch ac Olwen, tud. xliii.