Go Tell It on the Mountain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Go Tell It on the Mountain  
Awdur James Baldwin
Gwlad UDA
Iaith Saesneg
Cyhoeddwr Alfred A. Knopf
Rhif OCLC 24659110
Dosbarthiad LC PS3552 .A5 G6

Nofel led-hunangofiannol gan James Baldwin yw Go Tell It on the Mountain a gyhoeddwyd ym 1953. Mae'n ymwneud â pherthynas yr Eglwys Gristnogol â'r gymuned a'r teulu Affricanaidd-Americanaidd. Daw teitl y llyfr o'r gân ysbrydol o'r un enw, a elwir yn "Dos Dywed ar y Mynydd" yn Gymraeg. Hon oedd nofel gyntaf James Baldwin.

Rhennir y nofel yn dair rhan. Yn y rhan gyntaf cyflwynir stori'r prif gymeriad, John Grimes, llanc croenddu sydd yn llysfab i bregethwr Pentecostaidd. Yn yr ail ran, datgelir hanesion yr oedolion sydd ym mywyd John, ac yma mae disgrifiadau o gamdriniaeth, trais, hiliaeth, ffydd, euogrwydd a gwaredigaeth. Yn rhan olaf y nofel portreadir defod eglwysig mewn delweddau megis breuddwyd, wrth i John ceisio deall ei rywioldeb a'i ffydd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Samuels, Wilfred. Encyclopedia of African-American Literature (Efrog Newydd: Facts On File, 2007), t. 211.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Alexander, Charlotte A. Baldwin's Go Tell It on the Mountain, Another Country, and Other Works: A Critical Commentary (Efrog Newydd: Monarch Press, 1966).
  • Harris, Trudier (gol.) New Essays on Go Tell It on the Mountain (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1996).
  • Henderson, Carol E. (gol.) James Baldwin's Go Tell It on the Mountain: Historical and Critical Essays (Efrog Newydd: Peter Lang, 2006).
  • Knight Jr., Dennis Ray. "Time to Tell", James Baldwin Review 3.1 (2017), tt. 131–151. Mynediad agored