Melyn y rhafnwydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Glöyn brwmstan)
Gonepteryx rhamni rhamni
Esiampl wedi'i fframio
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Pieridae
Genws: Gonepteryx
Rhywogaeth: G. rhamni
Enw deuenwol
Gonepteryx rhamni
(Linnaeus, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw melyn y rhafnwydd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy melynion y rhafnwydd; yr enw Saesneg yw Brimstone, a'r enw gwyddonol yw Gonepteryx rhamni rhamni.[1][2] Mae i'w gael yn Ewrop, Gogledd Affrica ac Asia.

'Gonepteryx rhamni Cynefin: Swydd Stafford, Lloegr

Pan mae'n nhw'n cael seibiant nid yw eu hadenydd ar agor.

Mae'r wyau'n cael eu dodwy ar un ddeilen o ddau blanhigyn yn unig, sef y ddau blanhigyn y byddant hefyd yn ei fwyta: Rhamnus cathartica) neu Rhamnus frangula.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r melyn y rhafnwydd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Cylchred bywyd
Paru (chwith: gwryw.)
Pwpa
Gwryw

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: