Gilbert Savil Szlumper
Gwedd
Gilbert Savil Szlumper | |
---|---|
Ganwyd | 1884 |
Bu farw | 1969 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, peiriannydd, person milwrol |
Gwobr/au | CBE |
Peiriannydd a rheolwr ar y rheilffordd oedd Gilbert Savil Szlumper (18 Ebrill 1884 – 19 Gorffennaf 1969). Roedd yn fab i Alfred Weeks Szlumper. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin, Wimbledon, ac wedyn astudiodd peirianwaith yng Ngholeg y Brenin, Llundain.[1] Hyfforddodd fel periannydd ar Reilffordd Llundain a'r De Ddwyrain a pharhaodd i weithio iddynt. Cyfunodd ei waith dros y rheilffordd efo gyrfa yn y fyddin, yn dechrau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1939, roedd o'n uwchfrigadydd. Daeth yn Rheolwr Cyffredin i'r Rheilffordd Deheuol ym 1937.
Bu farw ar 19 Gorffennaf 1969.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ysgrif goffa Gilbert Saville Szlumper
- ↑ "Gwefan ArchivesWales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-11-04.