Twyber Travers
Twyber Travers | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1877 Casnewydd |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1945 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Pill Harriers, Clwb Rygbi Casnewydd |
Safle | Bachwr (rygbi) |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd George "Twyber" Travers (9 Mehefin 1877 - 26 Rhagfyr 1945) yn fachwr rhyngwladol o Gymru a chwaraeodd rygbi clwb ar gyfer Pill Harriers a Chlwb Rygbi Casnewydd. Enillodd 25 cap dros Gymru rhwng 1903 a 1911.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Travers yng Nghasnewydd yn fab i Mathew Travers, labrwr yn y dociau a Louisa Anne (née Gearey). Cafodd ei addysgu yn Ysgol Eglwys y Drindod, Casnewydd.
Gan fod rygbi ar y pryd yn gêm gwbl amatur, roedd raid i chwaraewyr gweithio tu allan i'r maes chwaraeon i ennill cyflog. Roedd Travers yn gweithio fel naddwr glo.[2]
Ym 1903 priododd Annie Louisa Trump. Bu iddynt o leiaf dwy ferch ac wyth mab. Ym mysg y meibion oedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol William H. (Bunner) Travers a chwaraewyr Casnewydd Jack, Chris a Reg Travers [3]
Gyrfa Rygbi
[golygu | golygu cod]Roedd Travers yn chwarae rygbi clwb, yn wreiddiol, fel rhan o dîm Pill Harriers, a oedd yn gysylltiedig â Dociau Casnewydd [4]. Treiliodd dwy dymor gyda Chasnewydd yn nhymhorau 1901/02 a 1910/11, bu hefyd yn chware am gyfnod i dîm Aberpennar.
Mae Travers yn cael ei gydnabod fel un o fachwyr arbenigol cyntaf i chware rygbi'r undeb. Roedd arbenigedd mewn safle blaenwr yn anarferol yn ystod hanes cynnar rygbi, yn bennaf oherwydd y rheolau parthed sgrymio. Roedd gallu Travers yn safle'r bachwr yn disgleirio ac fel rhan o'r pac [5] saith dyn yn chware rhan blaenllaw ym muddigoliaeth Cymry yn erbyn Lloegr ym 1903 ac yn erbyn y Crysau Duon ym 1905.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Enillodd Travers ei gap gyntaf dros Gymru fel canolwr mewn gem yn erbyn Lloegr ym mis Ionawr, 1903 pan oedd yn chware i'r Pill Harriers. Byddai Travers yn chwarae i Gymru 24 gwaith arall gan gynnwys gemau yn erbyn y Crysau Duon gwreiddiol o Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia. Ym 1908, cafodd Travers ei godi'n gapten Cymru yn erbyn yr Alban yn Abertawe, gêm a enillwyd gan Gymru 6-5, ond yr unig dro iddo fod yn gapten. Yr unig bwyntiau rhyngwladol iddo sgorio oedd yn erbyn Wallabies Awstralia, mewn gêm a enillwyd gan Gymru 9-6. Mae wedi cael ei gydnabod yn ddiweddarach, gan y ddwy ochr, fod Travers wedi gollwng y bêl cyn mynd dros y llinell ac ni ddylai'r cais wedi ei roi.
Ymddangosiadau Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Travers dros Gymru yn erbyn:
- Awstralia 1908
- Lloegr 1903, 1905, 1906, 1907, 1908, 1909
- Ffrainc 1908, 1911
- Iwerddon 1903, 1905, 1906, 1907, 1908, 1909, 1911
- Seland Newydd 1905
- yr Alban 1903, 1905, 1906, 1907, 1908, 1909, 1911
- De Affrica 1906
-
Tîm Cymru 1905, Travers, rhes gefn trydydd o'r chwith
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ESPN Rugby George Travers adalwyd 17 Tachwedd 2018
- ↑ WALES TEAM VISIT BIG PIT WRU News adalwyd 17 Tachwedd 2018
- ↑ History of Newport RFC William H. (Bunner) Travers adalwyd 17 Tachwedd 2018
- ↑ Pill Harriers RFC History Early Years adalwyd 17 Tachwedd 2018
- ↑ "THEWELSHPACK - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-01-18. Cyrchwyd 2018-11-17.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
- Jones, Peter (2016). Newport Rugby Greats. Amberley Publishing Limited.
- Richards, Huw (2014). The Red & The White: A History of England vs Wales Rugby. Aurum Press.