Gemau Olympaidd yr Henfyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cynhalwyd Gemau Olympaidd yr Henfyd am y tro cyntaf yn Olympia, yn nhiriogaeth Elis, Gwlad Groeg yn 776 CC, ac fe'u dathlwyd hyd 393 OC. Cyfeirid atynt yn wreiddol fel y Gemau Olympaidd (Groeg: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones), ar ôl enw'r ddinas, er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt â gemau eraill Groeg. Roeddent yn gyfres o gystadlaethau athletaidd gydag athletwyr o amryw o ddinas-wladwriaethau Groeg yr Henfyd yn cymryd rhan.[1]

Roedd gemau Olympiaidd yr henfyd braidd yn wahanol i'r gemau modern. Roedd llai o ddigwyddiadau ac ond dynion rhydd a siaradai Roeg allai gymryd rhan.

Ond o'r cychwyn cyntaf bu'r Gemau Olympaidd yn fwy nag achlysur ar gyfer athletau a mabolgampau eraill fel ymgodymu. Roeddent yn gyfle i hyrwyddo diwylliant, clywed cerddi newydd, gwrando ar gerddoriaeth a thrafod y byd a'i bethau.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ancient Olympic Games, Microsoft® Encarta® Online Encyclopedia 2006
Sports icon.png Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Greece.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato