Gareth Richards

Oddi ar Wicipedia
Gareth Richards
Ganwyd27 Mai 1974 Edit this on Wikidata
Man preswylLlanbedr Pont Steffan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcogydd, gwerthwr blodau Edit this on Wikidata

Cogydd o Gymro yw Timothy Gareth Richards (ganwyd 27 Mai 1974)[1] sy'n hannu o Lanbedr Pont Steffan. Mae hefyd yn ddyn busnes, yn ffermwr ac yn werthwr blodau. Ym 1995 roedd yn gystadleuydd yn rownd derfynol cyfres y BBC Masterchef.

Mae'n byw ar fferm ei rieni ger Llanbedr Pont Steffan, lle mae'n rhedeg Cegin Gareth, busnes sy'n arddangos sgiliau coginio a sgiliau eraill.[2] Mae'n ymddangos yn gyson ar raglen S4C Prynhawn Da. Mae wedi ennill gwobrau yn Sioe Frenhinol Cymru am ei gynnyrch, fel siytni a jam.

Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr am goginio, gan gynnwys:

  • Prydau Pum Peth/Take Five (Y Lolfa)[3]
  • Prydau Pedwar Tymor / Food for Four Seasons[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Timothy Gareth Richards". Companies House (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mawrth 2024.
  2. "Cookery Corner at Lampeter Food Festival / Gŵyl Fwyd Llambed". Welsh Country (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Mawrth 2024.
  3. "Prydau Pum Peth". Y Lolfa. Cyrchwyd 25 Mawrth 2024.
  4. Sue Lewis (4 Rhagfyr 2014). "Win Gareth's new cook book". Western Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mawrth 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Ffilm Youtube