Neidio i'r cynnwys

Ganymede (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Ganymede
Enghraifft o:cymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0k_85 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Zews (yn rhith eryr) a Ganymede. Darganfuwyd ar safle dinas Carthago, ger Tunis, Tiwnisia

Bachgen ym mytholeg Roeg a ddaeth yn un o gariadon y duw Zews oedd Ganymede (hefyd Ganymedes; Hen Roeg: Γανυμήδης). Mae ei chwedl wedi cael ei bortreadu sawl gwaith gan artistiaid o'r cyfnod Clasurol hyd heddiw.

Bachgen golygus o Phrygia yn Asia Leiaf, yn fab i Tros ac yn frawd i Ilus, sefydlwyr chwedlonol Caerdroea, oedd Ganymede (ond yn ôl Lucian roedd yn fab i Dardanus).

Gwelodd Zews ef yn hela gyda'i gymdeithion ar lethrau Mynydd Ida a syrthiodd mewn cariad ag ef. Disgynnodd arno yn rhith eryr a'i dwyn i'r nefoedd. Yn Olympus, daeth yn was cwpan Zews yn lle Hebe. Fe'i portreadir yng ngweithiau celf yr Henfyd yn cael ei anwesu gan Zews yn rhith yr eryr (un o'i symbolau pennaf).

Enwir Ganymede, un o loerennau'r blaned Iau, ar ei ôl.

Ffynhonnell

[golygu | golygu cod]
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).
Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato