Neidio i'r cynnwys

Gangakondacholapuram

Oddi ar Wicipedia
Gangakondacholapuram
Mathvillage in India Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirardal Thanjavur Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Cyfesurynnau11.20524°N 79.45278°E Edit this on Wikidata
Map

Teml anferth yng nghanolbarth talaith Tamil Nadu yn ne-ddwyrain India ydyw Gangakondacholapuram. Fe'i lleolir yn ymyl y pentref bach diarffordd o'r un enw tua 25 milltir i'r gogledd o dref Kumbakonam.

Mae gopuramau (math o dyrau o siâp pyramidaidd) mawr y deml yn dominyddu'r tirwedd am filltiroedd o gwmpas. Codwyd Gangakondacholapuram gan yr ymerodr Chola Rajendra I (1012 - 1044) yn arddull Teml Brihadishwara (gwaith ei dad) yn Thanjavur, hefyd yn Tamil Nadu.

Addurnir muriau a llannau'r deml gan gerfluniau hardd niferus. Yno hefyd y gwelir tanc (cronfa dŵr arbennig) anferth. I'r tanc hwnnw bu brenhinoedd oedd yn ddeiliaid i'r ymerodr yn dod â phiserau o ddŵr o Afon Ganges a'i gwagio yno. Dyna sy'n rhoi i'r deml ei henw iaith Tamil, Gangakondacholapuram, sy'n golygu "Teml Chola Offrymau Dŵr Ganges".

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.