Gandhi (ffilm)
Gwedd
| Cyfarwyddwr | Richard Attenborough |
|---|---|
| Cynhyrchydd | Richard Attenborough |
| Ysgrifennwr | John Briley |
| Serennu | Ben Kingsley |
| Cerddoriaeth | Ravi Shankar George Fenton |
| Sinematograffeg | Billy Williams Ronnie Taylor |
| Golygydd | John Bloom |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Goldcrest Films National Film Development Corporation of India |
| Dosbarthydd | Columbia Pictures |
| Amser rhedeg | 183 munud |
| Gwlad | Deyrnas Unedig India |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | £13 miliwn[1] |
| Refeniw gros | $52,767,889 (Gogledd America)[2] |
Ffilm fywgraffyddol o 1982 sy'n olrhain hanes bywyd Mohandas Karamchand Gandhi, arweinydd heddychlon brwydr yr India am annibyniaeth yw Gandhi. Ysgrifennwyd y sgript gan John Briley a chafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Richard Attenborough. Mae'n serennu Ben Kingsley fel y prif gymeriad. Rhyddhawyd y ffilm yn India ar 30 Tachwedd 1982, yn y Deyrnas Unedig ar 3 Rhagfyr ac yn yr Unol Daleithiau ar 6 Rhagfyr. Cafodd ei henwebu am Wobr yr Academi mewn unarddeg categori, gan ennill wyth ohonynt, gan gynnwys y Ffilm Orau. Enillodd Richard Attenborough y Cyfarwyddwr Gorau tra bod Ben Kingsley wedi ennill yr Actor Gorau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Derek Malcolm (2 Rhagfyr 1982). Gandhi for beginners (Derek Malcolm reviews the new releases)
- ↑ Gandhi, Box Office Information.